A ddylwn i ddatgelu fy anabledd/fy nghyflwr iechyd i'm cyflogwr?

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, ni fyddai gofyniad cyfreithiol i chi ddatgelu anabledd i gyflogwr, er bod rhai eithriadau (y lluoedd arfog er enghraifft). Chi sy'n penderfynu datgelu anabledd ai peidio, a chi sy'n dewis sut a phryd i wneud hyn. Fodd bynnag, os oes adran am gyflyrau iechyd difrifol neu anableddau yn y cais, mae'n bwysig nad ydych yn darparu gwybodaeth anghywir ar y ffurflen gais. Os nad ydych am ddatgelu ar yr adeg hon, gallwch adael y cwestiwn yn wag a datgelu ar yr adeg iawn i chi.

Os dewiswch beidio â datgelu anabledd i'ch cyflogwr, mae'n bosib na fydd y Ddeddf Cydraddoldeb yn eich diogelu. Os tybir nad yw cyflogwr yn ymwybodol o anabledd aelod staff, ni ellir barnu ei fod wedi gwahaniaethu yn erbyn yr aelod staff, oherwydd nad oedd disgwyliad rhesymol iddo wybod bod anabledd gan yr aelod staff. Cyn gynted ag rydych yn datgelu anabledd i'ch cyflogwr, bydd y Ddeddf Cydraddoldeb yn eich diogelu ac ni fydd eich cyflogwr yn gallu gwahaniaethu yn eich erbyn.

Mae'n werth cadw rhai pethau mewn golwg wrth ystyried a ddylech ddatgelu'ch anabledd:

  • A fydd eich anabledd/cyflwr iechyd yn effeithio ar eich gallu i gymryd rhan yn llawn yn y broses recriwtio, er enghraifft, os bydd y cyfweliad yn cynnwys profion?
  • Fydd angen addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y swydd rydych wedi gwneud cais amdani?
  • Oes materion iechyd a diogelwch a allai effeithio arnoch chi, eich cyflogwr a'ch cydweithwyr?

Mae manteision i ddatgelu'ch anabledd i'ch cyflogwr. Os yw'r broses gyfweld yn cynnwys profion, neu os oes angen cymorth arnoch chi yn y cyfweliad ei hun, bydd datgelu anabledd yn eich galluogi i dderbyn y cymorth perthnasol ac yn caniatáu i chi ddangos eich potensial llawn. Yn ogystal, os bydd angen addasiadau arnoch yn y gweithle neu drwy Fynediad i Waith, gall fod o fudd datgelu'ch anabledd i'ch cyflogwr. Drwy ddatgelu anabledd ar eich telerau eich hun, gallwch lywio'r drafodaeth amdano (e.e. canolbwyntio ar yr agweddau cadarnhaol a'ch profiadau eich hun).

Pryd dylwn i ddatgelu anabledd?

Mae nifer o gyfleoedd i ddatgelu anabledd yn ystod y broses recriwtio. Gall dewis pryd i ddatgelu ddibynnu ar eich amgylchiadau a'ch anghenion penodol ar wahanol adegau.

Llythyr Eglurhaol

Dylai eich llythyr eglurhaol ganolbwyntio ar eich sgiliau a'ch profiadau perthnasol a'u hamlygu, ond mae hefyd yn lle priodol i ddatgelu anabledd os penderfynwch ddweud wrth eich cyflogwr ar y cam hwn yn y broses. Mae'n gyfle i chi ddisgrifio'ch cyflawniadau a'ch profiad blaenorol mewn modd cadarnhaol, a dweud sut rydych chi wedi goresgyn heriau yn y gorffennol. Gall hefyd fod yn ffordd ddefnyddiol o esbonio bylchau yn eich addysg neu'ch profiad gwaith oherwydd rhesymau iechyd. Mae Prospects wedi llunio llythyr enghreifftiol i ddangos sut gallwch ddatgelu anabledd mewn llythyr eglurhaol: https://www.prospects.ac.uk/careers-advice/cvs-and-cover-letters/cover-letters/example-of-how-to-disclose-a-disability-in-a-cover-letter.

Ar yr adeg hon, gall fod yn berthnasol tynnu sylw'ch darpar gyflogwr at anghenion hygyrchedd sydd gennych, er enghraifft, eich dewis o ddull cyfathrebu.

Ar y Ffurflen Gais

Gall fod adran ar y ffurflen gais sy'n holi am gyflyrau iechyd neu anableddau. Chi sy'n penderfynu a ddylech ddatgelu ar yr adeg hon ai peidio, ond mae'n bwysig nad ydych yn darparu gwybodaeth anghywir. Os nad ydych am ddatgelu ar yr adeg hon, gadewch yr adran hon yn wag.

Gallwch drafod eich anabledd neu'ch cyflwr iechyd yn eich datganiad personol hefyd ac amlygu'ch cryfderau a'ch profiadau cadarnhaol.

Cyn y cyfweliad

Os teimlwch y bydd angen addasiadau arnoch i wneud y cyfweliad yn hygyrch, efallai y bydd yn syniad datgelu eich anghenion cyn eich cyfweliad i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn llawn yn y broses gyfweld. Gall cyflogwr ofyn i chi nodi anghenion penodol ar yr adeg hon, a gall hyn fod yn gyfle delfrydol i drafod eich anghenion sy'n ymwneud â'ch anabledd.

Os dewiswch beidio â datgelu unrhyw anghenion cyn y cyfweliad neu os nad ydych yn rhoi rhybudd digonol, mae'n bosib na fydd cyflogwyr yn gallu trefnu'r addasiadau gofynnol ar fyr rybudd.

Yn y Cyfweliad

Gallwch ddatgelu yn y cyfweliad - mae'n bosib na fydd modd cuddio'ch anabledd yn y cyfweliad, neu efallai eich bod yn teimlo'n hapusach yn trafod effaith eich anabledd neu'ch cyflwr iechyd wyneb yn wyneb. Gallwch achub ar y cyfle hwn i drafod eich anabledd mewn modd cadarnhaol a dangos i'ch darpar gyflogwr sut rydych wedi ymdopi a goresgyn heriau drwy gydol eich addysg.

Ar ôl derbyn cynnig swydd

Gallwch benderfynu datgelu anabledd ar ôl i chi dderbyn cynnig swydd neu ar ôl i chi ddechrau'ch swydd. Chi sy'n penderfynu wrth bwy i ddweud - gallwch ddweud wrth eich rheolwr llinell neu efallai y bydd yn well gennych siarad ag Adnoddau Dynol neu Iechyd Galwedigaethol.

Hefyd, mae'n bwysig cofio bod cyflogwyr yn cael gofyn am iechyd ac anabledd ar ôl i chi dderbyn cynnig swydd, fel y gallant benderfynu pa addasiadau rhesymol efallai y bydd angen eu rhoi ar waith i wneud y gweithle'n hygyrch.

Yn ystod cyflogaeth

Os ydych yn darganfod, ymhen amser, bod eich angen am addasiad yn fwy nag roeddech chi'n meddwl, neu os yw'ch cyflwr yn newid neu'n gwaethygu dros amser, mae'n well trafod hyn â'ch cyflogwr a gofyn am addasiadau cyn iddo effeithio ar eich perfformiad. Gallwch gael eich cyfeirio at Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol ar yr adeg hon i drafod sut gall y cyflogwr eich cefnogi ymhellach.

Oes gan ddarpar gyflogwr hawl i ofyn cwestiynau am anabledd/cyflyrau iechyd?

Mae'n anghyfreithlon i gyflogwr neu gynrychiolydd holi ymgeisydd am ei iechyd/anabledd oni bai ei fod wedi cynnig swydd i’r ymgeisydd ond nid cyn hynny. Mae rhai eithriadau i'r rheol hon ac mae gan gyflogwyr hawl i holi am iechyd/anabledd:

  • I farnu a allwch gymryd rhan mewn asesiad o’ch addasrwydd am y swydd;
  • I farnu a fydd angen addasiadau rhesymol i'ch galluogi i gymryd rhan mewn asesiad yn ystod y broses recriwtio;
  • I farnu a fyddwch yn gallu cyflawni swyddogaeth sy'n elfen hanfodol o'r swydd;
  • I fonitro amrywiaeth ymgeiswyr am swyddi;
  • I gefnogi 'gweithredu cadarnhaol' mewn arferion cyflogi ar gyfer pobl anabl;
  • Os oes gofyniad galwedigaethol i'r person fod yn anabl;
  • Caniateir gofyn cwestiynau am iechyd ac anabledd at ddibenion fetio ymgeiswyr am resymau diogelwch gwlad.

Pan fydd cynnig swydd wedi'i wneud, mae gan y cyflogwr hawl i fynnu bod hyn yn amodol ar fodloni ei ofynion iechyd a nodwyd a gellir gofyn cwestiynau am iechyd ac anabledd. Fodd bynnag, ni ddylai'r cyflogwr wneud penderfyniadau terfynol ynghylch dyfarnu’r swydd mewn modd a fyddai'n gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl; ni chaiff wrthod ymgeisydd am y rheswm syml ei fod wedi datgan anabledd.

Mae Llywodraeth y DU wedi llunio llyfryn canllawiau sydd ar gael yma: https://www.gov.uk/government/publications/employers-quick-start-guide-to-the-ban-on-questions-about-health-and-disability-during-recruitment