Cyngor cyffredinol

Mae'r wefan TARGETjobs yn cynnwys adran gynhwysfawr am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth i chi chwilio am swydd ar ôl graddio, gan gynnwys anabledd ac iechyd meddwl, ynghyd â chyngor a dolenni i wybodaeth am:

  • Ddeddfwriaeth cydraddoldeb
  • Datgelu anabledd mewn ceisiadau am swyddi
  • Dod o hyd i gyflogwyr sy'n ystyriol o anableddau

Cymorth a'ch Hawliau yn y Gweithle

  • Mynediad i Waith - https://www.gov.uk/access-to-work
    Gallwch fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol i wneud y gweithle'n hygyrch i chi, drwy Fynediad i Waith a ddarperir drwy'r Llywodraeth neu gallai eich cyflogwr ei ddarparu.
  • Cymorth a'ch Hawliau yn y Gweithle - https://www.gov.uk/browse/disabilities/work
    Mae'r Llywodraeth wedi creu adnodd sy'n rhoi trosolwg o'r cymorth sydd ar gael i weithwyr ag anableddau.
  • Disability Rights UK- https://www.disabilityrightsuk.org/careers-and-work-disabled-people
    Mae Disability Rights UK wedi llunio nifer o daflenni ffeithiau, gan gynnwys un am gyflogaeth sy'n cynnwys gwybodaeth am eich hawliau yn y gweithle a sut i gael cyngor priodol ar yrfaoedd.
  • Ymddiriedolaeth Shaw - https://www.shaw-trust.org.uk/
    Mae Ymddiriedolaeth Shaw yn gweithio i wella canlyniadau cyflogaeth ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd ac anableddau.
  • TARGETjobs - https://targetjobs.co.uk/
    Ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth chwilio am swydd ac yn y gweithle.

Cyfleoedd Cyflogaeth a Recriwtio ar gyfer Pobl Anabl