Siarad ag ymgynghorydd gyrfaoedd
Wrthi’n eich cefnogi fel arfer trwy gymorth gyrfaol ar-lein
Apwyntiadau gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Rydym yn cynnig arweiniad cyfrinachol a ddiduedd i'ch helpu chi i wneud dewisiadau realistig am eich addysg a'ch cynlluniau o ran gyrfa, gan gynnwys:
- archwilio eich opsiynau pan nad ydych yn siŵr o'r hyn i'w wneud ar ôl graddio
- gwella eich ceisiadau a'ch datganiadau personol ôl-raddedig
- eich helpu os ydych yn ystyried newid neu adael eich cwrs
- cynllunio eich camau nesaf
- hyfforddiant at gyfweliadau i wella eich technegau cyfweld
Gallwch drefnu apwyntiad 30 munud yn uniongyrchol drwy'r ddolen hon. Cewch eich annog i greu eich proffil wrth i chi ddefnyddio'r Parth Cyflogaeth am y tro cyntaf. Gallwch drefnu apwyntiad o'r tab ar ochr dde'r faner werdd ar ôl i chi wneud hyn.