Image of students brainstorming infront of a whiteboard with sticky notes on.

Mae Hwb Gyrfaoedd yn brosiect a ariennir gan CCAUC sy'n cynnig cymorth penodol i fyfyrwyr o grwpiau wedi'u tangynrychioli. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i gymryd rheolaeth ar eich dyfodol a chael mynediad at brofiad gwaith, digwyddiadau a chyfleoedd eraill efallai nad wyt ti'n teimlo y gelli di gyfranogi ynddynt ar hyn o bryd.

Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys:

  • Cyfleoedd profiad gwaith â thâl a rhai di-dâl yn seiliedig ar dy amgylchiadau unigol a dy gynlluniau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.
  • Helpu i nodi a meithrin cyfalaf cymdeithasol - y rhwydwaith o bobl a sefydliadau i dy helpu i symud ymlaen yn dy yrfa.
  • Apwyntiadau un i un gyda'n Hymgynghorwyr Hwb Gyrfaoedd er mwyn darparu cyngor ac arweiniad ar opsiynau gyrfaol a chynllunio dy gamau nesaf, gan gynnwys cymorth ar gyfer y broses recriwtio.
  • Mynediad 24/7 at gyngor gyrfaol perthnasol a defnyddiol drwy'r Cwrs Datblygu Gyrfa.
  • Bwrsariaethau cyflogadwyedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad personol a thalu am feddalwedd, caledwedd a chostau teithio.
  • Cyfleoedd mentora i feithrin dealltwriaeth o rolau a diwydiannau gwahanol.
  • Digwyddiadau cyflogadwyedd pwrpasol gan gynnwys hyfforddiant.
  • Mynediad at adnoddau a chyrsiau penodol ynghylch cyflogadwyedd.
  • Fis Tachwedd hwn! - Bydd ein myfyrwyr Hyfforddwyr Gyrfaoedd ar gael i ddarparu cymorth gan gymheiriaid a gwybodaeth ar sail dy anghenion.

 

Darllena'r rhestr isod ac os gelli di uniaethu ag unrhyw un o'r datganiadau, bydd cymorth pwrpasol Hwb Gyrfaoedd ar dy gyfer di!

  • Rwy'n ystyried bod gennyf anabledd
  • Rwyf o'r farn bod gennyf gyflwr iechyd corfforol neu feddwl
  • Mae gen i un neu fwy o'r canlynol: awtistiaeth, dyslecsia, dyspracsia, ADHD, ADD neu gyflyrau niwroamrywiol eraill
  • Rwy'n fyfyriwr sydd wedi'i ddieithrio o'i deulu
  • Rydw i wedi gadael gofal/cael profiad o ofal
  • Rwy'n dod o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif ethnig (BAME)
  • Mae gen i gyfrifoldebau gofalu a/neu gyfrifoldebau rhiant
  • Rydw i'n ffoadur/yn geisiwr lloches
  • Rwyf o'r farn fy mod i'n dod o gefndir incwm isel
  • Fi yw'r genhedlaeth gyntaf yn fy nheulu i fynd i'r Brifysgol
  • Rwy'n rhan o'r gymuned LGBTQ+
  • Rydw i'n dod o gymuned Sipsiwn neu Deithwyr
  • Rydw i'n byw yng nghartref y teulu ac yn teithio i'r Brifysgol bob dydd

 

* Os wyt ti'n fyfyriwr rhyngwladol, bydd y cymorth y mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn ei gynnig yn fwy addas i ti. Rhagor o wybodaeth ar gael ar tudalennau we ACA.

 

Cofrestrwch eich diddordeb yma

Ar ôl i chi gofrestru, dewch o hyd i ragor o adnoddau ar e-Hwb: eich cwmpawd gyrfaol swyddogol!

Wedi’i ddatblygu’n arbennig ar gyfer myfyrwyr gall fod wedi eu tangynrychioli ym myd addysg uwch, mae’r e-Hwb yn adnodd sy’n caniatáu i chi gysylltu eich gweithgarwch academaidd gyda’ch dyheadau proffesiynol.

Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf uchod, peidiwch â phoeni! Bydd Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) yn gallu eich helpu o hyd gyda chymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd personol. Ewch i'n tudalennau gwe  am ragor o wybodaeth neu e-bostiwch employability@abertawe.ac.uk os oes gennych gwestiynau.