CWRS DATBLYGU GYRFA CYFLAWNWCH GWRS DATBLYGU GYRFA A CHAIFF EICH CWRS EI CHYDNABOD YN FFURFIOL YN EICH ADRODDIAD CYFLAWNIAD ADDYSG UWCH (HEAR).
Mae gradd yn bwysig er mwyn dod o hyd i swydd wych, ond mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth benderfynu ar ba raddedigion i'w cyflogi. Bydd ennill profiad a datblygu sgiliau yn ystod eich astudiaethau ac yn ystod y gwyliau'n rhoi mantais gystadleuol i chi.
Ond beth yn union ydych am ei wneud pan fyddwch yn graddio?
Pa fath o waith fyddai'n addas i chi?
Mae rhai mathau o waith yn gofyn eich bod â rhywfaint o brofiad cyn i chi ymgeisio amdanynt. Mae’r cwrs yn eich helpu i archwilio pwy ydych chi ac yna i ennill profiad a datblygu sgiliau.
Mae’r Cwrs Datblygu Gyrfa yn un o'ch modiwlau ar Canvas. Mewngofnodwch i Canvas er mwyn cofrestru.
Os cwblhewch 5 uned, byddwch yn cyflawni’r Cwrs Datblygu Gyrfa, ac wrth gwblhau 10 uned neu fwy byddwch yn cyflawni’r Cwrs Datblygu Gyrfa Uwch, a gaiff ei gofnodi yn eich Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR).
Sicrhewch eich bod wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mai yn eich blwyddyn olaf i sicrhau ei bod yn cael ei gynnwys yn eich Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch.
Mae 16 uned yn y Cwrs Datblygu Gyrfa, fel:
- Meithrin Hunanymwybyddiaeth
- Profiad Gwaith
- Meddylfryd, Gwytnwch, Gwneud Penderfyniadau a chynllunio gweithedu ar gyfer gyrfa
Mae'n well cwblhau rhai o'r modiwlau hyn yn eu trefn, ond gallwch eu dilyn mewn unrhyw drefn os yw hynny'n well gennych.
Mae Cwrs Datblygu Gyrfa ar agor i unrhyw fyfyriwr ac os ydych chi'n penderfynu ei wneud, dilynwch y cyfarwyddiadau ar Canvas a chwblhau’r unedau.
Bydd rhai ohonoch chi'n cwblhau'r Cwrs Datblygu Gyrfa fel rhan o'ch cwrs. Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng hyn a gwneud y Cwrs o'ch gwirfodd, ar wahân i'r ffaith y gallech ennill credydau ar fodiwl cyflogadwyedd.
Os ydych chi wedi cyflawni dyfarniad Academi Cyflogadwyedd Abertawe o’r blaen, sylwer bod cynnwys a gwaith asesu newydd sbon yn y cwrs hwn y bydd yn rhaid i chi eu cwblhau; nid oes modd trosglwyddo eich gwaith blaenorol ar ddyfarniad yr Academi neu gyfrif hynny tuag at y Cwrs Datblygu Gyrfa.