Mae gwirfoddoli yn cyfri tuag at ennill Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe yn ogystal â gwobrau cyflogadwyedd eraill sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r gwobrau hyn yn cael eu cofnodi yn Adroddiadau Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR) myfyrwyr. Cliciwch yma am wybodaeth am yr amrywiol wobrau a’r adroddiadau HEAR. Gweler isod fanylion am gyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru ac yn ardal leol Abertawe:
- Mae Darganfod - Gwirfoddoli i Fyfyrwyr Abertawe yn elusen a arweinir gan wirfoddolwyr a sefydlwyd yn 1966 gan grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe gweithgar a oedd yn dymuno gwneud gwahaniaeth yn y gymuned leol. Heddiw, mae ganddynt dros 25 o brosiectau gwahanol a mwy na 300 o wirfoddolwyr gwerthfawr gan gynnwys ein myfyrwyr-ymddiriedolwyr. Diben y prosiect yw cyfoethogi bywydau pobl ddifreintiedig trwy hwyluso gweithgareddau cymdeithasol ystyrlon a magu perthnasau cadarnhaol gyda grwpiau cymunedol ar draws y ddinas. Mae'r gwaith yn cynnwys ymgysylltu â phlant a phobl ifainc o bob cefndir, unigolion sydd ag anghenion arbennig a phobl hŷn yn y gymuned.
- Mae angen gwirfoddolwyr ar Y Ganolfan Eifftaidd ar y campws, nid yn unig i edrych ar ôl yr orielau’n ddyddiol ond er mwyn helpu gyda’r nifer fawr o bartïon ysgol sy’n dod ar ymweliad hefyd. Nid oes yn rhaid i chi feddu ar ddiddordeb yn yr Aifft ond byddai’n helpu!
- Mae Gwasanaeth Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn chwilio am wirfoddolwyr i weithio gyda theuluoedd sy'n agored i niwed sy'n ymwneud â Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot gan roi cymorth ar sail 2 awr yr wythnos. Yn benodol croesawir ceisiadau gan fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd sy'n astudio pynciau sy'n ymwneud â maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac sy'n dymuno ennill profiad gwaith yn y gobaith y byddant yn ennill swydd yn y meysydd gofal proffesiynol. Anfonwch e-bost i RosierG@nptcvs.org.uk am wybodaeth bellach.
- Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot angen gwirfoddolwyr i fod yn Gyfeillion Cymunedol i gynnig cyfeillgarwch i bobl sy’n teimlo’n unig neu’n ynysig, neu sydd angen ychydig o gymorth i fynd allan ac i ddychwelyd at fywyd cymunedol. Os ydych yn dymuno trafod bod yn Gyfaill Cymunedol gyda rhywun, cysylltwch â Chastell-nedd Port Talbot: Liz Randall LizR@nptcvs.org.uk Pen-y-bont ar Ogwr: Tracy Evans, TracyEvans@bavo.org.uk.
- Mae Crisis ar hyn o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr ledled De Cymru. Ydych chi eisiau mynd i’r afael â digartrefedd a dysgu am y sector elusennol? Ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phobl ac eisiau gwneud gwahaniaeth? Mae Crisis angen cymorth yn ein dosbarthiadau, ein swyddfa, ein gwasanaethau gweinyddol a TG, mewn digwyddiadau a gyda chodi arian ac ymgyrchoedd. Cysylltwch â Victoria, Cydlynydd Gwirfoddolwyr ar 07422 072906 neu e-bostiwch Victoria.rodwell@crisis.org.uk am ragor o fanylion.
- Cyngor ar Bopeth, Abertawe Castell-nedd Port Talbot. Mae gwirfoddolwyr wrth galon Cyngor ar Bopeth yn Abertawe Castell-nedd Port Talbot. Ni fyddai'r gwasanaeth yn bodoli hebddynt. Maent yn chwarae rôl allweddol mewn helpu cleientiaid gyda gwledd o faterion megis budd-daliadau, dyledion, cyngor ar berthnasau, mewnfudo, tai a llawer mwy. Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi hyfforddiant cynhwysfawr i bob gwirfoddolwr.
- Mae NewLink Wales yn cefnogi effeithiolrwydd y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau trwy gysylltu gwirfoddolwyr ag asiantaethau, asiantaethau â hyfforddiant a chymunedau â gwasanaethau.
- Mae Involve Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe yn bodoli fel partneriaeth rhwng Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Dinas a Sir Abertawe. Mae Involve yn recriwtio, yn archwilio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr i weithio gyda phlant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd sy’n agored i niwed.
- The Royal Voluntary Service (RVS) yw un o’r mudiadau gwirfoddol mwyaf yn y DU, ac mae ei waith yn cynnwys nifer o brosiectau yn ardal leol Abertawe.