Dewch o hyd i'ch swydd ddelfrydol: Dewch o hyd i'ch lleoliad gwaith eich hun
Methu â dod o hyd i'ch swydd ddelfrydol yn y Parth Cyflogaeth? Un ffordd wych o sicrhau eich bod yn derbyn lleoliad gwaith sy'n gweddu eich sgiliau a'ch cynllun gyrfa yw creu eich cyfleoedd eich hun gan holi cyflogwyr yn uniongyrchol. Cysylltwch â ni, rhowch wybod i ni am unrhyw brofiad gwaith addas ar gyfer israddedigion/ôl-raddedigion rydych chi wedi dod o hyd iddo a byddwn yn ceisio dod o hyd i gymorth ac ariannu ar eich cyfer. Hoffem glywed gennych.
Profiad Gwaith ac Interniaethau i Raddedigion
Erbyn hyn rydym yn cynnig lleoliadau gwaith ac interniaethau wrth ochr rolau eraill i raddedigion trwy ein Parth Cyflogaeth. Yn ogystal, mae rhai o'n rhaglenni lleoliad gwaith ac ariannu ar gael i'r rheiny sydd wedi graddio o Brifysgol Abertawe yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach, e-bostiwch: EmploymentZone@abertawe.ac.uk.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae'n bwysig iawn eich bod yn gwirio bod gennych hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r tîm anhygoel yn Rhyngwladol@BywydCampws yma i'ch helpu. Maent yn cynnal sesiynau galw heibio ac yn trefnu apwyntiadau i sicrhau bod cyfyngiadau eich visa mewn lle.
Lleoliadau Gwaith a Nodweddion Gwarchodedig
Boed eich bod yn mynychu lleoliad gwaith neu interniaeth â thâl neu'n ddi-dâl neu eich bod yn weithiwr cwmni mae'r gyfraith yn eich diogelu rhag gwahaniaethu ar sail:
- oedran
- bod neu ddod yn berson trawsrywiol
- bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth
- anabledd
- hil gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol
- crefydd, cred neu ddiffyg crefydd/ffydd
- rhyw
- tueddfryd rhywiol
Gelwir y rhain yn 'nodweddion gwarchodedig' ac mae gennym rwydwaith cefnogi gwych yn y Brifysgol os bydd angen unrhyw gymorth arnoch chi ynghylch unrhyw un o'r uchod.
Hawliau Beichiogrwydd a Mamolaeth
Os ydych chi'n feichiog ac yn mynychu lleoliad gwaith neu interniaeth mae gennych hawliau a chyfrifoldebau sy'n debyg iawn i'r rheiny sydd gan unrhyw weithiwr beichiog arall. Mae tudalen gwybodaeth y llywodraeth yn lle da i ddechrau chwilio am wybodaeth ond cysylltwch â ni os gallwn eich helpu mewn unrhyw ffordd.