Sut i lwyddo mewn cyfweliad

Mae cyfweliad yn gam pwysig yn y broses recriwtio, bydd cyflogwyr fel arfer yn gofyn i chi gyflwyno CV neu gais am swydd, cyn cwblhau cyfweliad a dewis yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae cyfweliad yn gyfle i chi ddweud wrthyn nhw pam rydych chi eisiau'r swydd a'r hyn sydd gennych i'w gynnig. Mae'n arferol teimlo'n nerfus, mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) yma i'ch helpu chi i lwyddo!

P'un a yw eich cyfweliad yn un rhithwir neu wyneb yn wyneb, dyma 3 awgrym gorau i lwyddo yn y cyfweliad hwnnw.

Yn gyntaf, ymchwiliwch i'r sefydliad a dangoswch frwdfrydedd am y rôl. Edrychwch ar wefan y cwmni a sianelau cyfryngau cymdeithasol a darllenwch y disgrifiad swydd. Dylech chi feithrin dealltwriaeth o sector y sefydliad a sut mae'n cyd-fynd â'ch gwerthoedd.

Yn ail, paratowch a chysylltwch eich sgiliau a'ch profiad â'r swydd. Mae gan gyflogwyr ddiddordeb mewn pob math gwahanol o brofiad gwaith. Dylech chi feddwl ymlaen llaw am enghreifftiau o'ch gwaith, eich astudiaethau neu'ch gweithgareddau allgyrsiol megis bod yn gynrychiolydd myfyrwyr, er mwyn dangos sut gallwch chi wneud y gwaith. Er enghraifft, ydych chi wedi cael swydd ran-amser a oedd yn gofyn i chi weithio gyda phobl eraill i gwblhau tasg? Byddai hyn yn enghraifft ddefnyddiol ar gyfer cwestiwn cyfweliad ynghylch gweithio mewn tîm.

Mae Cwrs Datblygu Gyrfa ACA, sy'n gwrs ar-lein am ddim wedi'i ddatblygu gyda chyflogwyr yn benodol ar gyfer Prifysgol Abertawe. Gallwch ei wneud yn eich amser eich hun am yr hyblygrwydd mwyaf posibl. Ceir unedau sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, i'ch helpu ar hyd pob cam o'r broses recriwtio. Er enghraifft, nod yr uned ' Cyfweliad Campus' yw eich hyfforddi i lwyddo mewn cyfweliadau.

Wedi graddio eisoes? Rydym ni’n dal i fod yn gefn i chi!
Mae Rhaglen Cymorth i Raddedigion ACA yn helpu cyn-fyfyriwr am ddwy flynedd ar ôl graddio. Mae hyn yn cynnwys ein Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion, sy'n rhaglen wedi'i theilwra ar gyfer ôl-raddedigion. Mae'r Rhaglen Cefnogi Graddedigion hefyd yn galluogi graddedigion Abertawe i gael mynediad at dîm cymorth penodol sydd wrth law i gynnig apwyntiadau cyngor gyrfa personol i'ch helpu wrth gynllunio gyrfa, gwirio eich CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau neu drafod pethau ag arbenigwr. 

Yn olaf, rhaid ymarfer, ymarfer, ymarfer! Canolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol; rydych chi wedi llwyddo i gael cyfweliad oherwydd bod y cyflogwr yn hoffi rhywbeth yn eich CV neu'ch cais.Dylech chi ymarfer ar gyfer cyfweliadau drwy ddefnyddio anodd ymarfer ar-lein ACA, sef Shortlist Me. Yma gallwch efelychu sefyllfa cyfweliad go iawn, ymarfer a recordio eich ymatebion a chael adborth deallusrwydd artiffisial ar eich atebion. Gallwch ddewis o amrywiaeth o rolau a sefydliadau sy'n benodol i sector.

Pob lwc gyda'ch cyfweliad nesaf!

Hefyd, cewch wella trwy:-

  • Drafftio atebion i gwestiynau posibl.
  • Ymarfer eich atebion yn uchel. Cewch hyd yn oed wneud fideo o'ch atebion, ac wedyn myfyrio yn eu cylch.

Gofynnwch gwestiynau allweddol i'ch hunain:-

  • Oedd f'ateb yn gwneud synnwyr?
  • Wnes i ateb y cwestiwn?
  • Oedd strwythur da i'm hateb?
  • Oedd iaith fy nghorff a'm mynegiant yn gadarnhaol?
  • Sut allaf i wella f'ateb?

Cyfweliadau Ffug

Pa fydd gennych ddyddiadau cyfweliad wedi’u cadarnhau ar gyfer swydd, cwrs neu ymchwil, efallai y byddwch yn dymuno trefnu cyfweliad ffug gydag ymgynghorydd gyrfaoedd – gweler ein tudalen ar siarad ag ymgynghorydd gyrfaoedd.

Ymarfer Cyfweliadau Fideo

Ymarferwch gyfweliadau fideo am ddim trwy’r raglen Shortlist.me

Fel arfer, caiff canolfannau asesu eu defnyddio gan gyflogwyr i greu amgylchedd lle gallwch chi, ynghyd ag ymgeiswyr eraill, ddangos sgiliau gweithle allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau, rheoli amser ac arweinyddiaeth. Gellid asesu'r sgiliau hyn drwy weithgareddau megis gwaith grŵp, cyflwyniadau, astudiaethau achos neu ymarferion e-fasged.

Rhowch gynnig ar yr uned 'Disgleirio yn y cyfweliad' yn y Cwrs Datblygu Gyrfa am ragor o wybodaeth a chanllawiau.