Gall CV, llythyr eglurhaol neu broffil LinkedIn wneud y gwahaniaeth rhyngoch chi'n cyrraedd y rhestr fer ai peidio. Mae cyflogwyr yn awyddus i ddethol yr wybodaeth berthnasol amdanoch chi a sut byddech o fudd i’r sefydliad neu’r tîm.  

Bob tro rydych chi'n cyflwyno cais am swydd, dylech chi deilwra eich CV a’ch llythyr eglurhaol i'r rôl dan sylw. Rydym yma i helpu a gallwn eich cefnogi i wneud argraff gyntaf dda!

Mae gan ein Cwrs Datblygu Gyrfa unedau i'ch helpu chi i greu CV, llythyr eglurhaol a phroffil LinkedIn. Dyma le gwych i ddechrau! Gallwch hefyd  drefnu apwyntiad gyrfaoedd  i adolygu eich CV a chael cyngor a chanllawiau personol.

Beth i'w gynnwys yn eich CV?

  • Manylion cyswllt (rhif ffôn a chyfeiriad e-bost)
  • Adran am eich cymwysterau
  • Adran am eich addysg
  • Adran am brofiad gwaith (gall gynnwys interniaethau, gwirfoddoli neu swyddi rhan-amser)
  • Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn cael ei groesawu gan gyflogwyr. Gallai'r rhain gynnwys cymdeithasau myfyrwyr, chwaraeon neu wobrau.

Sut i ysgrifennu llythyr eglurhaol?

Llythyr eglurhaol sy'n mynd gyda'ch CV wrth gyflwyno cais am swydd. Os yw wedi'i ysgrifennu'n dda, mae'n gyfle i fynegi pam rydych chi'n meddwl mai chi yw'r ymgeisydd iawn ar gyfer y rôl. Ceisiwch osgoi llythyr eglurhaol generig ac yn lle hynny, esboniwch pam mae gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i'r sefydliad a mynegi pam rydych chi'n teimlo eich bod chi'n bodloni gofynion allweddol y disgrifiad swydd.

Er bod angen bod yn benodol, ceisiwch fod yn gryno. Yn ddelfrydol, 2 neu 3 pharagraff yn amlygu eich sgiliau a'ch profiad. Cofiwch y dylai'r cynnwys hwn ategu eich CV.

Rhowch gynnig ar unedau canlynol y Cwrs Datblygu Gyrfa  am ragor o wybodaeth ac arweiniad: 'Llunio CV, llythyr eglurhaol neu broffil LinkedIn gwych' neu 'Datblygu eich Hunanymwybyddiaeth'.

Pam mae Linkedin yn offeryn gwych ar gyfer recriwtio

I fod yn syml, LinkedIn yw eich CV ar-lein. Mae'n eich galluogi i rannu eich sgiliau a'ch profiad, wrth ymgysylltu'n broffesiynol â chydweithwyr presennol a chyn-gydweithwyr, cyd-fyfyrwyr ac academyddion... mae'r rhestr yn ddiddiwedd!

I ddechrau, dylech chi greu proffil gyda llun diweddar a chwblhau gymaint o wybodaeth y proffil ag y gallwch. Ymunwch â grwpiau perthnasol a dilynwch sefydliadau i wella eich ymwybyddiaeth fasnachol. Cofiwch gynnig argymhellion a gofyn amdanynt.

Mae llawer o gyflogwyr yn hysbysebu swyddi gwag ar LinkedIn, felly gall fod yn blatfform gwych i'w ddefnyddio wrth chwilio am swyddi. Ewch i'n tudalen Ble i ganfod swyddi am ragor o wybodaeth am ble i chwilio am gyfleoedd swyddi.