Tudalennau myfyrwyr Y Coleg Peirianneg a Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Gwybodaeth, digwyddiadau a diweddariadau sy'n berthnasol i chi fel myfyriwr peirianneg presennol yn y Coleg Peirianneg. Os oes unrhyw beth hoffech chi i ni ei ychwanegu at y tudalennau hyn, e-bostiwch engagement@swansea.ac.uk.
ORIAU SGWRSIO BYW'R DDERBYNFA
Mae Tîm y Dderbynfa Peirianneg ar gael i Sgwrsio'n Fyw
9.30am - 4.30pm, Dydd Llun - Dydd Gwener (ac eithrio gwyliau'r DU).
Sylwer oherwydd rheoliadau diogelu data personol GDPR, byddwn ni dim ond yn gallu ymateb i Sgwrsio'n Fyw gyda gwybodaeth gyffredinol.
Ar gyfer ymholiadau penodol am amgylchiadau neu wybodaeth bersonol, e-bostiwch ni yn EngineeringReception@abertawe.ac.uk.
Caffis Cymorth
Mae’n bryd adolygu! Gan y bydd holl asesiadau Semester 2 2020 yn cael eu cwblhau ar-lein ac ni fydd yr asesiadau traddodiadol yn bosib, rydym yn eich cynghori i baratoi ar gyfer yr asesiadau amgen hyn ac ymgymryd â nhw yn yr un ffordd ag y byddech yn adolygu ar gyfer arholiadau fel arfer. Rydym i gyd yn gweithio o bell nawr, ond mae llawer o ffynonellau cymorth academaidd ar gael i’ch helpu i adolygu a pharatoi.