Os ydych chi'n paratoi ar gyfer asesiadau, ceir ystod eang o gymorth academaidd ar nifer o ffurfiau, gan gynnwys adnoddau, cyrsiau a gweithdai grŵp ar-lein, a thiwtora personol.

Os oes gennych gwestiynau neu adborth ynghylch y cymorth academaidd a'r adnoddau sydd ar gael, a wnewch chi gysylltu â'r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr drwy StudentSupport-ScienceEngineering@abertawe.ac.uk.

Canoldan Llwyddiant Academaidd

Mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnig amrywiaeth o gymorth i'r holl fyfyrwyr ar ystod o bynciau megis ysgrifennu ac iaith. Gweler tudalen we'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd am ragor o wybodaeth ac er mwyn trefnu apwyntiad: Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd

Cymorth Llyfrgell dynodedig

Mae cymorth ac adnoddau ar-lein gan y Llyfrgell ar gyfer cyfeirnodi ac astudio ar-lein. Yn ogystal, mae Llyfrgellwyr Pwnc y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ar gael am Sgwrs Fyw ac maent hefyd yn cynnig sesiynau 1:1 ar-lein dros Zoom i helpu gydag ymchwil a chyfeirnodi (dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm). Er mwyn cael mynediad at y canllaw i adnoddau neu er mwyn e-bostio Tîm y Llyfrgell, sgwrsio'n fyw neu drefnu apwyntiad dros Zoom, gweler tudalennau'r Llyfrgell ar gyfer eich pwnc: