Amserlenni i Fyfyrwyr yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

I gyrchu eich amserlen, cliciwch ar y ddolen ar y dde, ac yna “Guest”. Peidiwch â dewis “Mewngofnodi” gan y bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen anghywir. Mae mwy o gyngor ar gyrchu eich amserlen ar gael isod.

O 16 Ionawr 2024, bydd amserlen Bloc Addysgu 2 ar gyfer 23/24 ar gael i'w gweld gan fyfyrwyr.

Sylwer y gallai gweithgareddau addysgu newid. Rydym yn argymell yn gryf nad ydych yn argraffu'r amserlen a’ch bod yn ei gwirio'n rheolaidd.

Sylwer, efallai bydd mwy o wybodaeth ar Canvas. Gwiriwch gyda'ch Cyfadran a yw hyn yn wir.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynglŷn â'ch amserlen, ewch i dderbynfeydd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg - Adeilad Canolog Peirianneg (Campws y Bae) ac ystafell 223c yn Adeilad Wallace (Campws Parc Singleton). Oriau agor safonol y Dderbynfa yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am-4pm.

Os ydych chi'n credu bod gennych wrthdaro yn eich amserlen, e-bostiwch Dîm Ansawdd y Gyfadran.

Gwyliwch y fideo gyda chyfarwyddiadau isod. Hefyd, gallwch lawrlwytho Canllaw Defnyddwyr Amserlenni Agored.

Sut i Ddefnyddio Amserlenni Agored

* We discourage you from printing any timetables as they are subject to change. Check back regularly instead!