MYFYRWYR YMCHWIL ÔL-RADDEDIG
Cyfrifoldebau Myfyrwyr-Goruchwylwyr
Unwaith eich bod yn dechrau eich astudiaethau gyda ni, darllenwch ein dogfen Cyfrifoldebau Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig-Goruchwylwyr gyda’ch goruchwylydd, llofnodwch hi a chadwch gopi.
MYFYRWYR ISRADDEDIG AC ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR
Disgwyliadau Cyffredinol
- Dylai myfyrwyr a staff barchu pobl eraill ac ymddwyn mewn modd proffesiynol drwy’r amser.
- Dylai myfyrwyr ddefnyddio’r dulliau adborth sydd yno er mwyn codi pryderon (e.e. drwy Gynrychiolwyr Myfyrwyr, Unitu, Adborth am Fodiwlau ayyb.).
- Nod staff ar draws y Gyfadran fydd mynd i’r afael â materion y mae myfyrwyr yn eu codi mewn modd prydlon ac adrodd yn ôl ynghylch camau gweithredu a gymerwyd.
- Dylai staff wneud myfyrwyr yn ymwybodol o reoliadau iechyd a diogelwch perthnasol, ac mae’n rhaid i fyfyrwyr lynu wrth y rheoliadau hyn.
- Mae presenoldeb mewn cyfarfodydd gyda Mentor Academaidd yn orfodol (ar-lein neu yn y cnawd);dylai staff hysbysu myfyrwyr o ddyddiad, amser a lle’r cyfarfod mewn modd prydlon, a dylai myfyrwyr gyrraedd yn brydlon ar ddechrau’r cyfarfod.
Darlithoedd, Dosbarthiadau Gweithredol ac Ymarferol
- Dylai myfyrwyr geisio bod yn bresennol ym mhob dosbarth sydd wedi’i amserlennu, a bod yn brydlon, oni bai bod rhesymau y tu allan i reolaeth y myfyriwr. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer sesiynau ymarferol a gellir atal myfyrwyr rhag ymgymryd â'r gwaith os ydynt wedi methu'r sesiwn friffio gychwynnol.
- O ran sesiynau ar y safle nad ydynt yn ymarferol, os yw myfyrwyr yn hwyr am resymau na ellir eu hosgoi, yna dylai staff ganiatáu i fyfyrwyr fynd i mewn i’r dosbarth, ond dylai myfyrwyr wneud hynny'n dawel (trwy ddrws ochr neu gefn os yw'n bosibl).
- Bydd staff yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl o unrhyw newidiadau.
- Bydd staff yn lanlwytho unrhyw ddeunydd sydd i'w roi ar Canvas o leiaf 24 awr cyn pob dosbarth sydd wedi’i amserlennu. Mewn rhai achosion, lle byddai peidio â gwneud hynny’n gwella'r profiad dysgu (e.e. cwisiau ffurfiannol), bydd y deunyddiau hyn yn cael eu postio ar ôl y sesiynau a drefnwyd.
- Dylai myfyrwyr ddarllen neu gwblhau unrhyw ddeunydd paratoi gofynnol cyn y ddarlith/dosbarth ymarferol.
Yn ystod dosbarthiadau byw, dylai myfyrwyr fod yn dawel fel y gall eraill roi sylw i’r dosbarth ac ni ddylent ymgymryd â gweithgareddau eraill (gemau, cyfryngau cymdeithasol ac ati) a fydd yn tynnu eu sylw eu hunain neu eraill. - Yn ystod sesiynau addysgu ar-lein, dylai myfyrwyr fod yn broffesiynol wrth ddefnyddio nodweddion sgwrsio neu drafod a lle bo hynny'n ymarferol, anogir myfyrwyr i droi eu camerâu ymlaen.
- Ni ddylai myfyrwyr na staff fwyta nac yfed mewn unrhyw ddosbarthiadau neu ddosbarthiadau cyfrifiadurol ar y safle (mae dŵr mewn poteli yn dderbyniol), gan y gallai hyn dynnu sylw eraill a gallai amharu ar ddiogelwch. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer dosbarthiadau ymarferol.
Oriau Swyddfa
- Y prif ddull i fyfyrwyr unigol dderbyn cymorth yw trwy Oriau Swyddfa. Dylai myfyrwyr ddefnyddio'r rhain fel y brif ffordd o gael help.
- Bydd staff yn cael Awr Swyddfa a gaiff ei chyhoeddi bob wythnos ar gyfer ymholiadau modiwlau, a byddant yn sicrhau eu bod ar gael yn eu swyddfa neu ar-lein (fel y bo'n briodol) bryd hynny. Dylai'r rhain fod o fewn oriau addysgu arferol ar adeg(au) sy'n cyd-fynd ag amserlen y myfyrwyr.
- Mae Oriau Swyddfa yn cynnig cyfle dysgu rhagorol lle gall myfyrwyr gael adborth sylweddol iawn ar eu cynnydd ym mhob modiwl, drwy gyflwyno cwestiynau, anawsterau gydag ymarferion ac ati.
- Os yw staff yn derbyn ymholiadau sy'n benodol i fodiwlau (e.e. trwy e-bost), mae'n hollol dderbyniol i'r rhain gael eu hystyried yn ystod Oriau Swyddfa, ond dylai staff ymdrechu i ddarparu cymorth i fyfyrwyr cyn gynted â phosibl.
Cyfathrebu
- System e-bost y Brifysgol yw'r prif ddull cyfathrebu. Disgwylir y bydd myfyrwyr a staff yn defnyddio eu cyfrifon e-bost prifysgol ar gyfer gohebiaeth gyffredinol.
- Dylai myfyrwyr gael atebion gan aelodau staff (er enghraifft, Mentoriaid Academaidd, Cydlynwyr Modiwlau, Cydlynwyr a Staff Addysgu’r flwyddyn) o fewn 3 diwrnod gwaith, yn gynt yn ddelfrydol .
- Weithiau bydd staff yn ymateb i fyfyrwyr ar benwythnosau a chyda'r hwyr, ond ni ddylai myfyrwyr ddisgwyl hyn gan y dylid parchu oriau gwaith arferol.
- Ar gyfer ymholiadau am ddarlithoedd a dosbarthiadau ymarferol modiwlau penodol, dylai myfyrwyr geisio defnyddio amser yn ystod y dosbarth a’r Oriau Swyddfa fel y prif ffordd o gael cymorth. Gall staff ymateb i negeseuon e-bost myfyrwyr am gynnwys modiwlau, ond, ar gyfer modiwlau mawr, gall staff gyfathrebu trwy ddulliau eraill (byrddau trafod Canvas er enghraifft).
- Disgwylir i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o gyhoeddiadau mewn perthynas â modiwlau a wneir trwy Canvas.
Aseiniadau
- Dylai staff roi rhyw fath o ganllawiau marcio ar gyfer pob aseiniad, gan ganiatáu i fyfyrwyr wybod beth sydd ei angen, ond heb fynd mor bell ࣙâ rhoi cyfarwyddiadau penodol ar sut i gael y marciau.
- Dylai myfyrwyr geisio cyflwyno ymhell cyn y dyddiad cau er mwyn osgoi problemau TG. Ar gyfer cyflwyniadau Canvas / Turnitin, dylai staff ganiatáu mwy nag un ymgais i gyflwyno os nad yw hyn yn effeithio ar y dull asesu.
- Dylai myfyrwyr bob amser gadw copi o'u derbynneb Turnitin/Canvas neu unrhyw sgrinluniau sy'n cadarnhau bod gwaith cwrs wedi'i gyflwyno'n llwyddiannus. Dylid cadw'r rhain hyd nes y caiff marciau eu cadarnhau ar ddiwedd y flwyddyn.
- Dylid cysylltu â'r Tîm Gwybodaeth i Fyfyrwyr drwy studentsupport-scienceengineering@abertawe.ac.uk ag unrhyw broblemau o ran cyflwyno gwaith cwrs, gan gynnwys sgrinluniau o unrhyw negeseuon gwall/methiant a chopi electronig o'r aseiniad terfynol, cyn dyddiad cau'r aseiniad lle bo'n bosibl.
- Bydd staff yn rhoi marciau ac adborth i fyfyrwyr o fewn 3 wythnos waith.
- Dylai myfyrwyr anelu at gwblhau'r holl aseiniadau ac enghreifftiau yn unol â chyfarwyddyd eu darlithwyr. Mae'n bwysig cwblhau asesiadau ffurfiannol (y rhai nad ydynt yn cyfrif tuag at farc y modiwl) gan mai dyma un o'r prif ddulliau o ddeall cynnwys eich modiwlau ac amlygu gwendidau.
Arholiadau
- Dylai myfyrwyr gael mynediad i rai papurau arholiad blaenorol, neu set o gwestiynau arholiad 'nodweddiadol' os yw'r modiwl neu'r cynnwys yn newydd.
- Nid oes unrhyw ofyniad i staff roi atebion i fwy nag un papur arholiad blaenorol; mae'n hysbys bod hyn yn annog myfyrwyr i edrych am batrymau cwestiynau a dysgu atebion iddynt. Fodd bynnag, bydd staff yn cynnig cyngor ar arholiadau yn ystod sesiynau adolygu a drefnir.
- Dylai myfyrwyr ddefnyddio papurau blaenorol fel canllaw yn unig, ac fel ffordd o asesu eu dealltwriaeth eu hunain.
- Dylai myfyrwyr gofio bod arholiadau yn brawf cyffredinol o ddealltwriaeth o'r deunydd, a bydd staff yn aml yn defnyddio cwestiynau sy'n eithaf gwahanol i flynyddoedd blaenorol, ond y gellir eu hateb drwy ddealltwriaeth dda o gynnwys y modiwl. Dylai myfyrwyr felly baratoi ar gyfer asesiadau drwy sicrhau eu bod yn deall y modiwl wrth iddynt fynd ymlaen, yn hytrach na dysgu sut i gwblhau cwestiynau arholiad a gadael paratoi i'r funud olaf.
- Dylai staff roi rhywfaint o gymorth i fyfyrwyr cyn yr arholiadau, ond dylai myfyrwyr ddefnyddio Oriau Swyddfa arferol ar gyfer hyn yn y rhan fwyaf o achosion ac ni ddylent ddisgwyl i staff esbonio rhannau helaeth o fodiwl i fyfyrwyr unigol ychydig cyn arholiad.
- Ar gyfer arholiadau atodol, ni ddylai myfyrwyr ddisgwyl unrhyw gymorth pellach gan staff gan y bydd holl gynnwys y modiwl wedi ei addysgu yn ystod y tymor. Bydd unrhyw gymorth a ddarperir yn ôl disgresiwn y staff.