Nodyn: Bydd y fideo uchod ar gael yn Gymraeg yn fuan.

Uniondeb Academaidd

Beth yw Uniondeb Academaidd?

Mae uniondeb academaidd yn un o’r blaenoriaethau pwysicaf ym myd Addysg Uwch ac ym maes ymchwil. Trwy weithio yn unol ag Uniondeb Academaidd, mae holl aelodau’r Brifysgol yn cyfrannu at ddiwylliant sy’n onest, yn dryloyw, ac yn barchus.   

I chi fel myfyriwr, mae Uniondeb Academaidd yn golygu bod yn rhaid i’ch gwaith darddu o’ch ymchwil a’ch syniadau eich hun. Mae’n rhaid i wybodaeth gan ffynonellau eraill gael ei chydnabod yn llawn os yw’n ddyfyniad uniongyrchol, yn aralleiriad, neu’n grynodeb. 

Mae diffiniad Uniondeb Academaidd y Brifysgol a’r egwyddorion craidd y mae wedi’i seilio arnynt ar gael yma: Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd - Prifysgol Abertawe

Pam mae Uniondeb Academaidd yn bwysig? Modiwl E-Ddysgu Uniondeb Academaidd

Camymddwyn Academaidd

Camymddwyn Academaidd yw pan fydd myfyriwr yn gweithredu mewn ffordd sy’n rhoi mantais annheg iddo ef neu i fyfyriwr arall. Mae hyn yn berthnasol os bydd yn gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag eraill i wneud hyn.  

Gall hyn ddigwydd mewn unrhyw asesiad y mae myfyriwr yn ei sefyll er mwyn derbyn ei gymhwyster ym Mhrifysgol Abertawe.   

Gall myfyrwyr gyflawni camymddwyn academaidd yn fwriadol neu’n anfwriadol felly mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o’r hyn a ystyrir yn dramgwydd gan y Brifysgol. Gallwch ddod o hyd i'r holl ddogfennau polisi a Chwestiynau Cyffredin perthnasol ymhellach i lawr y dudalen hon, neu edrych ar yr enghreifftiau canlynol:

Enghreifftiau o Gamymddwyn Academaidd

Llên-ladrad
myfyriwr yn copïo gwaith myfyriwr arall

Ystyr llên-ladrad yw defnyddio, heb gydnabyddiaeth, waith rhywun arall a’i gyflwyno i'w asesu fel pe bai'n briod waith.

Enghraifft o lên-ladrad yw copïo darn o destun gair am air o ffynhonnell arall heb gydnabod yr awdur(on) gwreiddiol. Gall llên-ladrad ddigwydd hefyd pan fyddwch chi’n defnyddio syniad rhywun arall, yn ei fynegi yn eich geiriau eich hun ond yn methu  cydnabod y ffynhonnell wreiddiol. Ymhlith yr enghreifftiau eraill y mae defnyddio ffigurau, meddalwedd, diagramau, deunyddiau o'r rhyngrwyd neu waith myfyriwr arall ond heb gydnabod y rhain.

Dylid nodi y bydd hyn yn cael ei ystyried a'i drin o hyd fel llên-ladrad, ni waeth a fydd yn digwydd yn fwriadol neu'n anfwriadol. Dyma pam ei bod hi’n bwysig dysgu pryd a sut i gydnabod ffynonellau, defnyddio dyfyniadau uniongyrchol ac aralleirio ffynonellau yn fanwl-gywir ac mewn ffordd gywir. Gweler yr adran isod am ganllawiau ynghylch cyfeirnodi yn ogystal ag awgrymiadau defnyddiol o ran dyfynnu ac aralleirio.

Comisiynu Meddalwedd Aralleirio a Gramadeg Cydgynllwynio Torri Rheolau Arholiadau Ffugio

Beth alla i ei wneud i gynnal Uniondeb Academaidd?

Y ffordd orau o gynnal uniondeb academaidd yw bod yn wybodus ynghylch polisïau a gweithdrefnau ar gyfer y Brifysgol, colegau unigol a modiwlau. Gweler y dolenni, y canllawiau a'r fideos isod am wybodaeth ac awgrymiadau llawn cymorth ynghylch sut i ddilyn eich astudiaethau ag uniondeb academaidd.

Gwylio

Bydd y fideos canlynol yn chwarae ar Popout Player YouTube ac maent yn cynnwys capsiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Os na allwch chi wylio YouTube yn eich gwlad chi, mae dolenni i’r fideos ar gael ar Panopto ar ddiwedd yr adran hon. 

Darllen

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cyflawni Camymddwyn Academaidd?

Mae’r weithdrefn ar gyfer camymddygiad academaidd yn cael ei thrin fesul achos. Am ragor o wybodaeth, gweler y dolenni isod. 

Ymhlith y cosbau posibl y mae rhybuddion ysgrifenedig, dileu marciau’r papur, marc sero ar gyfer y modiwl, dileu’r marciau ar gyfer lefel yr astudio, neu ddileu'r holl farciau a chael eich gwahardd o'r rhaglen

Adnoddau Defnyddiol Eraill