menyw yn edrych ar lyfrau

Trosedd academaidd yw llên-ladrad pan na chydnabyddir syniadau rhywun arall yn briodol. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio'n anghywir, aralleirio'n wael, cyflwyno gwaith rhywun arall fel eich gwaith eich hunan. Ym Mhrifysgol Abertawe, mae staff academaidd yn defnyddio meddalwedd Turnitin i'w helpu i adnabod gwaith sydd wedi'i lên-ladrata.

Mae'n bwysig nodi bod gwaith sydd wedi'i lên-ladrata yn cael ei gyfeirio ar gyfer achos camymddygiad academaidd, a all mewn rhai achosion arwain at gael eich diarddel o'r brifysgol. Gall torri cyfreithiau o ran hawlfraint hefyd arwain at ddirwyon ac achosion cyfreithiol.

Yn ogystal, mae'r sgiliau rydych yn eu dysgu i osgoi llên-ladrad, megis aralleirio a chyfeirio, yn cynrychioli agweddau allweddol ar ddysgu cysylltiedig a thrylwyredd proffesiynol, y bydd sefydliadau academaidd a chyflogwyr yn y dyfodol yn chwilio amdanynt.

Yr hyn y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnig

Yn ein cyrsiau, gweithdai a hyfforddiant ar-lein, rydym yn ymdrin â phynciau megis dyfynnu, aralleirio ac uniondeb academaidd. Gallwn eich helpu i nodi'r hyn yw llên-ladrad a sut i'w osgoi – gan ddechrau o gamau cynllunio gwaith ymchwil i'r drafft terfynol o'ch gwaith. Rydym yn dysgu strategaethau, a allai eich helpu i osgoi'r peryglon cyffredin sydd yn aml yn arwain at lên-ladrad.

Cymerwch olwg ar ...