Overview | |
---|---|
![]() |
Lefel 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
2 awr yr wythnos am 6 wythnos |
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i hogi eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac i gynyddu eich ymwybyddiaeth o gonfensiynau academaidd. Byddwch chi’n dysgu technegau i wella eich ysgrifennu academaidd trwy weithgareddau ymarferol a luniwyd i’ch helpu chi i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn y dosbarth i'ch gwaith eich hun.
Mae’r cwrs hwn a addysgir hefyd ar gael fel cwrs astudio annibynnol ar Canvas. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen e-Ddysgu’r cwrs.
Gwybodaeth: Mae modiwlau sy'n cario'r cod UG yn fodiwlau dwyn credyd. Golyga hyn y bydd cwblhau'r modiwlau hyn yn llwyddiannus trwy fynychu 80% o'r cwrs, yn ymddangos ar eich Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR).
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau dwy awr a ganlyn:
Yn y sesiwn hon, byddwn yn diffinio nodweddion cyffredin ysgrifennu academaidd.Bydd myfyrwyr yn deall diben y nodweddion hyn a’u heffaith ar ysgrifennu academaidd, ac yn gallu adeiladu diwedd-glo a chyflwyniad yn seiliedig ar ‘symudiadau rhethregol’ cyffredin.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 8fed Chwefror 2023, 12:00-14:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 10fed Chwefror 2023, 12:00 - 14:00
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu i ddefnyddio ystod o dechnegau er mwyn ysgrifennu paragraffau cyson ac argyhoeddiadol.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 15fed Chwefror 2023, 12:00-14:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 17eg Chwefror 2023, 12:00 - 14:00
Yn y sesiwn hon, byddwn yn nodi’r gwahaniaethau rhwng ysgrifennu disgrifiadol, dadansoddol a gwerthusol.Bydd myfyrwyr yn dysgu i ddefnyddio ystod o strategaethau er mwyn sicrhau bod eu hysgrifennu’n ymddangos yn fwy beirniadol.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 22ain Chwefror 2023, 12:00-14:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 24ain Chwefror 2023, 12:00 - 14:00
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu i gyfosod gwybodaeth drwy ddefnyddio matrics, defnyddio dyfyniadau uniongyrchol yn gywir, a defnyddio strategaethau gwahanol ar gyfer aralleirio.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 1af Mawrth 2023, 12:00-14:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 3ydd Mawrth 2023, 12:00 - 14:00
Yn y sesiwn hon, byddwn yn trafod technegau er mwyn gwneud eich ysgrifennu’n fwy cryno, ac ystod o dechnegau er mwyn gwneud eich ysgrifennu’n haws ac yn fwy pleserus i’w ddarllen.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 8fed Mawrth 2023, 12:00-14:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 10fed Mawrth 2023, 12:00 - 14:00
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i fynd at ddarllen proflenni a golygu mewn dull mwy effeithiol a systematig.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 15fed Mawrth 2023, 12:00-14:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Gwener 17eg Mawrth 2023, 12:00 - 14:00