Trosolwg | |
---|---|
Lefel 3, Master's a lefel PhD | |
12 awr adferf |
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i hogi eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac i gynyddu eich ymwybyddiaeth o gonfensiynau academaidd. Byddwch chi’n dysgu technegau i wella eich ysgrifennu academaidd trwy weithgareddau ymarferol a luniwyd i’ch helpu chi i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn eich gwaith eich hun.
Mae’r cwrs e-Ddysgu hwn hefyd ar gael fel cwrs a addysgir yn ystod y tymor. Am ragor o wybodaeth ewch i’r dudalen wybodaeth ar gyfer fersiwn fyw’r cwrs.
Gwybodaeth: Mae modiwlau sy'n cario'r cod UG yn fodiwlau dwyn credyd. Golyga hyn y bydd cwblhau'r modiwlau hyn yn llwyddiannus trwy fynychu 80% o'r cwrs, yn ymddangos ar eich Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR).
Mae hwn yn fersiwn astudiaeth annibynnol o gwrs Ysgrifennu Academaidd 2 y Ganolfan Llwyddiant Academaidd. Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r un cynnwys â'r fersiynau o'r cwrs Ysgrifennu Academaidd 2 a gyflwynir trwy Zoom ac yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, nid oes sesiynau wyneb yn wyneb a chyflwynir cynnwys trwy fideos, darllen a thasgau Canvas. Mae hyn yn golygu y gallwch chi gwblhau'r cwrs yn eich amser eich hun. Cwrs wedi'i gyflwyno trwy'r gwersi canlynol:
Mae’r wers hon yn ystyried rhai o nodweddion eang ysgrifennu academaidd ac yn archwilio sut y gallant effeithio ar y ffordd y mae eich ysgrifennu’n cael ei ganfod. Rydyn ni hefyd yn ystyried cysyniad symudiadau rhethregol a sut y gellir eu defnyddio yn eich rhagarweiniad a’ch casgliadau.
Bydd y wers hon yn canolbwyntio ar sut i ysgrifennu paragraffau da. Mae paragraff yn gweithredu fel bloc adeiladu yn eich ysgrifennu felly mae’n bwysig bod pob un wedi’i strwythuro’n dda ac yn gadarn.
Mae’r wers hon yn archwilio pwysigrwydd sgiliau meddwl yn feirniadol ac ysgrifennu yn eich gwaith academaidd. Byddwn ni hefyd yn trafod y ffyrdd y mae proses synthesis – sut i adeiladu dadleuon a ffurfio casgliadau trwy weu nifer o syniadau neu ffynonellau at ei gilydd – yn allweddol ar gyfer ysgrifennu beirniadol.
Canolbwyntiodd y gwersi blaenorol ar arddull a llif eich ysgrifennu, yn ogystal â dadansoddi. Bydd y wers hon yn archwilio technegau penodol o fewn brawddegau y gellir eu defnyddio er mwyn creu ysgrifennu academaidd sy’n fwy manwl gywir a rhesymegol.