Trosolwg | |
---|---|
![]() |
Lefel 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
Gweithdy annibynnol 2 awr |

Fel myfyriwr, mae gweithio gydag uniondeb academaidd yn golygu eich bod yn cwblhau eich gwaith mewn modd gonest, teg a thryloyw. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yr holl ffynonellau rydych yn eu cynnwys yn eich gwaith wedi’u priodoli’n gywir, eich bod yn dilyn rheoliadau arholiad neu nad ydych chi’n gweithio gydag eraill i gwblhau aseiniad unigol.
Nod y gweithdy hwn yw eich helpu i ddeall disgwyliadau Prifysgol Abertawe o ran uniondeb academaidd. Bydd yn trafod mathau gwahanol o gamymddygiad academaidd megis llên-ladrad a chydgynllwynio a sut i’w hosgoi. Bydd hefyd yn darparu awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut i aralleirio a defnyddio dyfyniadau uniongyrchol, sy’n sgiliau hanfodol ar gyfer sicrhau uniondeb academaidd yn eich gwaith ysgrifennu.








