llaw yn estyn allan at dechnoleg
Trosolwg
level of study Lefel 1, 2, 3, Master's a lefel PhD
time taken to complete 2 awr yr wythnos am 4 wythnos 

Bwriad y cwrs hwn yw eich cyflwyno i Ddeallusrwydd Artiffisial fel technoleg sy'n dod i'r amlwg a sut y gellir ei defnyddio i wella eich astudiaethau academaidd mewn ffordd effeithiol a chyfiawn. Byddwn yn archwilio sut y gellir integreiddio Deallusrwydd Artiffisial mewn ffordd bwrpasol i'ch proses astudio, gan ganolbwyntio'n benodol ar sut y gall y dechnoleg roi hwb i'ch sgiliau darllen ac ysgrifennu. Byddwn ni hefyd yn archwilio'r maglau a phroblemau posib o ran y defnydd moesegol o ddeallusrwydd artiffisial mewn perthynas ag uniondeb academaidd.

Cyrsiau'n dod yn Nhymor y Gwanwyn 2024

Myfyrwyr yn cerdded i Gampws Singleton o'r parc

DOSBARTH SINGLETON

Dydd Mercher 14:00 - 16:00

Cychwyn ar 7fed Chwefror 2024

Cofrestrwch am gwrs 4 wythnos