Trosolwg | |
---|---|
![]() |
Lefel 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
2 awr yr wythnos am 4 wythnos |
Mae'r cwrs hwn wedi gorffen am y tymor hwn. Gwiriwch eto ar ddiwedd mis Medi am ddyddiadau'r tymor nesaf.
Trosolwg | |
---|---|
![]() |
Lefel 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
2 awr yr wythnos am 4 wythnos |
Mae'r cwrs hwn wedi gorffen am y tymor hwn. Gwiriwch eto ar ddiwedd mis Medi am ddyddiadau'r tymor nesaf.
Bydd y Cwrs Tystysgrifedig hwn yn eich helpu i ddysgu a datblygu sgiliau hanfodol i ysgrifennu traethawd academaidd effeithiol. Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch yn gwybod sut i gynllunio a strwythuro traethawd, sut i ddehongli teitl a sut i ddyfynnu ffynonellau'n gywir.
Gwybodaeth: Mae modiwlau sy'n cario'r cod UG yn fodiwlau dwyn credyd. Golyga hyn y bydd cwblhau'r modiwlau hyn yn llwyddiannus trwy fynychu 80% o'r cwrs, yn ymddangos ar eich Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR).
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau dau-awr ar-lein canlynol:
Mae’r dosbarth hwn yn defnyddio tacsonomeg Blooms fel fframwaith i ddechrau dadansoddi teitlau traethodau a lefel wahanol y dadansoddi efallai bydd ei hangen ar y darlithydd.Ar ôl dadansoddi nifer o deitlau, rydym yn symud ymlaen i ystyried cynllunio, gyda’r pwyslais ar ysgrifennu cynllun cynnar iawn y gellir ei ddefnyddio er mwyn llywio’r ymchwil. Yn olaf, mae’r sesiwn yn symud ymlaen i ystyried technegau ar gyfer symleiddio ymchwil, trwy ddefnyddio teitl enghreifftiol ac ystod o ddeunyddiau ymchwil.
Mae’r sesiwn hon yn cyflwyno’r syniad bod traethawd academaidd yn seiliedig ar un datganiad neu ddadl mewn thesis.Cyflwynir prif elfennau cyflwyniad effeithiol, a chaiff myfyrwyr gyfle i ddadansoddi nifer o enghreifftiau cyn ymarfer eu cyflwyniad eu hun.Gan symud ymlaen, rydym yn ystyried sut gellir datblygu dadl drwy’r traethawd, gan gyflwyno’r syniad o frawddegau testun sy’n ‘arwyddion’ i dywys y darllenydd.
Mae’r sesiwn hon yn ychwanegu at sut y datblygir dadleuon mewn traethawd drwy ddangos elfennau hanfodol paragraff llwyddiannus.Yn ogystal â chynnwys sut i ysgrifennu cymorth a chrynodebau effeithiol ar gyfer pob paragraff, mae’r sesiwn yn addysgu dyfeisiau cydlynol er mwyn hyrwyddo’r llif.
Mae’r sesiwn hon yn ystyried sut i wneud ysgrifennu academaidd yn fwy darllenadwy drwy gyflwyno’r syniad o rythm, tôn a llais i fyfyrwyr.Yn ogystal â chynnwys y sylfeini o ran beth yw arddull academaidd, bydd yn ystyried sawl gwall cyffredin a sut i gael gwared â’r rhain wrth brawf-ddarllen yn effeithiol.