Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Mae eich Prifysgol a'ch tiwtoriaid yn dilyn datblygiad offer deallusrwydd artiffisial ac yn addasu i'r amgylchedd newidiol i sicrhau bod gennych yr wybodaeth a'r sgiliau i ddefnyddio'r offer hyn yn ddiogel. Rydym wedi creu arweiniad cychwynnol ynghylch datblygiad deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (ar ffurf apiau megis Chat GPT (deallusrwydd artiffisial agored/Microsoft) a Bard (Google)) a sut a phryd y gellir ei ddefnyddio'n ddiogel – a’r pethau i fod ar eich gwyliadwriaeth amdanynt. NID bwriad yr arweiniad hwn yw trafod offer sydd eisoes ar gael megis Grammarly a Google Translate.

Arweiniad i Fyfyrwyr

  • Bydd tiwtoriaid eich modiwlau a staff y Brifysgol yn rhoi arweiniad i chi ynghylch sut i ddefnyddio technolegau, gan gynnwys y manteision, y risgiau a'r ystyriaethau moesegol sydd ynghlwm wrth eu defnyddio.
  • Rydym yn eich annog i gael sgyrsiau agored â thiwtoriaid eich modiwlau a staff am offer deallusrwydd artiffisial ac ansawdd y gwaith mae'r offer hyn yn ei gynhyrchu: yn aml mae'n ailadroddus a heb fanylion a dadansoddiad.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r offer mewn modd priodol (yn ôl cyfarwyddyd eich tiwtoriaid), agored (datgan eich bod wedi'u defnyddio), a gonest a moesegol (gan gydymffurfio â rheolau ac arweiniad asesu).
  • Ddylech chi ddim dibynnu ar offer deallusrwydd artiffisial yn lle dysgu neu ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd. Manteisiwch ar y cyfle i gael profiad o wirio ffeithiau, gwerthuso tystiolaeth ac ymarfer sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu.
  • Daliwch ati i ddatblygu eich gwybodaeth sylfaenol graidd er mwyn asesu cywirdeb y testun a'r cyfeiriadau sy'n cael eu cynhyrchu. Nid yw'r offer yn deall y cynnwys maent yn ei gynhyrchu. Er gwaethaf yr enw, nid ydynt yn ddeallus. Ddylech chi ddim dibynnu ar offer deallusrwydd artiffisial i fod yn ffeithiol gywir oherwydd gallant ffugio ffeithiau a chyfeiriadau nad ydynt ond yn rhithiau.
  • Dilynwch yr arweiniad, y cymorth a'r cyngor mewn perthynas â llythrennedd uniondeb academaidd, dysgwch werth uniondeb er mwyn osgoi ymchwiliad o gamymddygiad academaidd i'ch gwaith.
  • Os byddwch yn cyflwyno gwaith i'w asesu a gynhyrchwyd gan offer deallusrwydd artiffisial heb ganiatâd penodol a heb ddatgan hyn, gallech wynebu ymchwiliad am gamymddygiad academaidd. Darllenwch Weithdrefn Camymddygiad Academaidd y Brifysgol am wybodaeth bellach.
  • Gofynnwch. Dylech chi bob amser ofyn i'ch tiwtoriaid am wybodaeth ac eglurhad os nad ydych yn deall gofynion ac arweiniad ynghylch asesiad.
  • Ceisiwch osgoi mewnbynnu gwybodaeth neu ddata personol wrth ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial.