Myfyrwyr yn y ddarlithfa

Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol yn cyd-fynd â’r Côd Ansawdd a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd sef y corff sy’n monitro ac yn cynghori sefydliadau ar safonau ac ansawdd.

Cyflwyniad

Mae'r Brifysgol yn darparu gwybodaeth glir a chryno ar gyfer ei holl fyfyrwyr, am y rheolau a'r rheoliadau sy'n berthnasol i'ch rhaglen astudio, gan gynnwys rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd penodol a chyffredinol y Brifysgol. Mae Rheoliadau Academaidd y Brifysgol yn rheoli ein rhaglenni academaidd ac mae canllawiau defnyddiol ar gael i'w hategu. Maent yn bwysig a bydd angen i chi gyfeirio atynt drwy gydol eich gradd i gyflawni llwyddiant.

Fel rheol, mae angen o leiaf dair neu bedair blynedd i gwblhau gradd israddedig (y cyfeirir ati fel gradd gyntaf neu radd baglor hefyd). Fel rheol, mae gradd ôl-raddedig a addysgir (y cyfeirir ati hefyd fel gradd Meistr) yn dilyn rhaglen astudio israddedig ac mae angen blwyddyn neu ddwy i'w chwblhau fel arfer. Mae myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth academaidd uwch a/neu arbenigedd proffesiynol ac yn astudio mewn modd mwy annibynnol. Mae cymhwyster ôl-raddedig yn ddelfrydol i fyfyrwyr sydd am feithrin gwybodaeth fwy trylwyr mewn maes penodol a gwella eu cyflogadwyedd.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani, neu os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â'ch mentor academaidd neu aelod o staff eich Gyfadran/Ysgol yn y lle cyntaf. Mae gwybodaeth ar gael hefyd yn llawlyfrau'r Gyfadrannau/Ysgolion, llawlyfrau academaidd y Brifysgol neu ar Canvas. Mae'r holl wybodaeth a'r adnoddau angenrheidiol i hwyluso'ch taith academaidd yn Abertawe ar gael ar wefan MyUni neu gallwch gysylltu â MyUniHub drwy e-bost neu drwy ffonio +44 (0)1792 606000 a bydd aelod o'r tîm yn hapus i'ch cynghori. Mae atebion i rai Cwestiynau Cyffredin ar gael hefyd ar wefan Sylfaen Wybodaeth Cwestiynau Cyffredin y Brifysgol.