Gweler isod y camau y bydd rhaid i chi eu cymryd wrth wneud cais i drosglwyddo i gwrs arall a chysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau neu broblemau.
Cam 1 - Cymeradwyaeth Academaidd
Y cam cyntaf wrth drosglwyddo i gwrs arall yw ceisio cymeradwyaeth academaidd. Isod gwelwch restr o'r mathau o gymeradwyaeth academaidd mae angen eu cael ar gyfer cyrsiau gwahanol:
- Rhaglenni gwahanol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg e.e.Blwyddyn Gyntaf Peirianneg Awyrofod i Flwyddyn Gyntaf Peirianneg Fecanyddol - bydd angen i chi gysylltu â'r Tiwtor Derbyn perthnasol yn y rhaglen a fydd yn trafod a fyddai'n fodlon, o safbwynt academaidd, i chi drosglwyddo. Cysylltwch â ni i gael manylion cyswllt y Tiwtor Derbyn perthnasol.
- Cyrsiau gwahanol y tu allan i’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg - e.e. Blwyddyn Gyntaf Peirianneg Gemegol i Flwyddyn Gyntaf Hanes. Bydd angen i chi gysylltu â'r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr perthnasol ar gyfer y cwrs mae gennych chi ddiddordeb ynddo i ofyn am arweiniad a chymeradwyaeth gan y Tiwtor Derbyn. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'w fanylion cyswllt, cysylltwch â ni. Yna, dylech chi ddychwelyd eich ffurflen drosglwyddo a'ch cymeradwyaeth academaidd i'n Tîm.
- BEng i MEng - Os yw'ch marc cyfartalog dros 55% yn gyson yn ystod Blwyddyn 2, cewch eich gwahodd i drosglwyddo i'r rhaglen MEng ar ôl i chi gael eich canlyniadau yn yr haf. Ni fyddwch yn gallu trosglwyddo yn gynharach na hyn. Darllenwch ein tudalen Trosglwyddo i'r rhaglen MEng am ragor o wybodaeth.
- Gradd Meistr Integredig mewn Gwyddoniaeth - Os hoffech chi drosglwyddo i radd Meistr Integredig mewn Gwyddoniaeth, cysylltwch â ni am arweiniad. Mae enghreifftiau o'r trosglwyddiadau hyn yn cynnwys Ffiseg i MPhys, Cemeg i MChem etc.
- Blwyddyn mewn Diwydiant - cysylltwch â Thîm Cyflogadwyedd y Coleg Peirianneg os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo i raglen Blwyddyn mewn Diwydiant. Ar ôl i chi siarad â nhw, cysylltwch â ni am arweiniad ar y broses drosglwyddo. Bydd yn rhaid i chi ennill marc cyfartalog o 55% yn ystod Blwyddyn 1 i barhau i astudio ar y rhaglen.
- Blwyddyn Dramor - Cysylltwch â Thîm Cyflogadwyedd y Gyfadran os oes gennych chi ddiddordeb mewn trosglwyddo i raglen Blwyddyn Dramor. Ar ôl i chi siarad â nhw, cysylltwch â ni am arweiniad ar y broses drosglwyddo. Bydd yn rhaid i chi ennill marc cyfartalog o 55% yn ystod Blwyddyn 1 heb unrhyw arholiadau atodol ym mis Awst i barhau i astudio ar y rhaglen.
- Trosglwyddo yn ystod Blwyddyn Sylfaen - Os ydych yn bodloni'r meini prawf gofynnol i basio'r Flwyddyn Sylfaen a'r modiwlau craidd ar gyfer y cynllun gradd penodol sydd o ddiddordeb i chi, yna byddwch yn cael trosglwyddo heb siarad â Thiwtor Derbyn. Cyfeiriwch at Lawlyfr y Flwyddyn Sylfaen, Rhan 2 i weld pa fodiwlau sy'n rhai craidd ar gyfer cynlluniau gradd gwahanol.
Cam 2 – Goblygiadau Ariannol
Mae'n bwysig iawn eich bod yn gwirio'r goblygiadau ariannol sydd ynghlwm wrth drosglwyddo i gwrs arall.
Cyllid Myfyrwyr - Os ydych yn derbyn Grant/Benthyciad Ffioedd Dysgu a/neu Gynhaliaeth gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, mae'n hanfodol eich bod yn siarad ag Arian@BywydCampws cyn cyflwyno cais i drosglwyddo. Mae ganddynt dudalen cyngor ddefnyddiol iawn a allai ateb rhai o'ch cwestiynau.
Myfyrwyr sy'n cael eu Noddi - Os ydych yn cael eich noddi, anfonir eich cais at eich noddwr i'w gymeradwyo cyn i'r Coleg gyflwyno eich cais.
Cam 3 - Gwirio Fisas Myfyrwyr Rhyngwladol a’r UE (os yw’n briodol)
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol neu o’r UE sy’n astudio ar fisa Llwybr Myfyriwr, bydd angen i chi gysylltu â Thîm Rhyngwladol@BywydCampws i drafod y goblygiadau ar gyfer CAS a’ch fisa sydd ynghlwm wrth newid eich cwrs.
Cam 4 - Cyflwyno Ffurflenni
Os hoffech fwrw ymlaen a chyflwyno eich cais i drosglwyddo i gwrs arall, bydd angen i chi:
- Gwblhau Ffurflen Cais i Drosglwyddo a'i dychwelyd i StudentSupport-ScienceEngineering@swansea.ac.uk o'ch cyfrif e-bost myfyriwr neu gallwch ddod â'r ffurflen i Dderbynfa'r Coleg Peirianneg. Ni fydd ffurflenni a anfonir o gyfrifon e-bost personol yn cael eu derbyn.
- Darparu cadarnhad ysgrifenedig gan yr aelod staff academaidd/derbyn priodol ar gyfer y cwrs yr hoffech drosglwyddo iddo (os yw'n berthnasol)
- Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol neu o’r UE sy’n astudio ar fisa Llwybr Myfyriwr, bydd rhaid i chi gwblhau Holiadur Astudio Blaenorol a Datganiad Personol hefyd.