Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen ym mis Ionawr 2023
Caiff yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni MSc a ddechreuodd ym mis Ionawr eu hasesu yn unol â rheoliadau rhaglenni hyblyg. Gall myfyrwyr sy'n dilyn rheoliadau hyblyg weithio ar eu prosiect/traethawd hir ochr yn ochr â'u modiwlau a addysgir.
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni MSc Mynediad mis Ionawr yn cwblhau 60 credyd o fodiwlau a addysgir yn Semester y Gwanwyn (Ionawr 2023 – Mehefin 2023), traethawd estynedig 60 credyd yn Semester yr Haf (Mehefin 2023 – Medi 2023), a 60 credyd ychwanegol o fodiwlau a addysgir yn Semester yr Hydref (Medi 2023 – Ionawr 2024).
Er mwyn cwblhau'r rhaglen, bydd angen i chi gyflawni'r canlynol:
- 120 o gredydau ar lefel pasio (50+%) neu'n uwch.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i wneud yn iawn am unrhyw fodiwlau a fethwyd, a byddant yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar gyfer asesiadau atodol yn ystod y cyfnodau ailsefyll ym mis Awst 2023 (ar gyfer modiwlau'r Haf/Ionawr-Mehefin) a Mawrth 2024 (ar gyfer modiwlau'r Hydref/Medi-Ionawr). Bydd pob asesiad atodol yn cael ei gapio ar 50%, oni bai bod Amgylchiadau Esgusodol wedi'u cymeradwyo.
Sylwer nad yw'r canllawiau uchod yn cynnwys myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar yr MSc Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol a'r MSc Arwain a Rheoli Peirianneg. Er bod y rhaglenni hyn hefyd yn dilyn rheoliadau hyblyg, mae gan y rhaglenni hyn reoliadau penodol ac ni fydd yr wybodaeth uchod yn berthnasol iddynt. Am arweiniad penodol, cysylltwch â Chydlynydd eich MSc.