Os ydych chi'n credu nad yw marc yn gywir, gallwch ofyn am wiriad Cywirdeb y Marciau Cyhoeddedig o fewn 10 diwrnod gwaith o ryddhau'r canlyniadau. Cyn cyflwyno unrhyw gais, darllenwch y wybodaeth isod.
Bydd y broses yn sicrhau bod y marciau sydd wedi'u cofnodi ar gyfer cydrannau asesu a'r modiwl ar y cyfan yn rhydd o wallau gweinyddol a/neu rifyddol, e.e. bod y marciau wedi cael eu trosglwyddo i'r System Arholiadau yn gywir, bod y marciau wedi'u cyfrif yn gywir ar sgript arholiad, etc.
Nid yw’r weithdrefn yn darparu ar gyfer ail-farcio asesiadau, ac ni fydd ychwaith yn rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhesymau dros ddyfarnu marciau penodol.
Sylwer y gall marciau modiwlau fynd yn llai yn ogystal â mynd yn fwy yn dilyn cais i wirio cywirdeb y marciau a gyhoeddwyd.
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau ffurflen Cais i Gadarnhau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd ar-lein, o fewn 10 niwrnod gwaith fan bellaf ar ôl dyddiad rhyddhau eich canlyniadau (bydd y ffurflen hon ar agor ar gyfer cyflwyniadau o'r diwrnod y caiff canlyniadau eu rhyddhau).
Targed y Gyfadran yw 5 niwrnod gwaith i ddarparu ymateb. Fodd bynnag, sylwer ein bod yn ymdrin â nifer uchel o geisiadau ac efallai na fydd modd i ni fodloni'r targed hwn ym mhob achos.
Os oes gennych gwestiynau am y broses, cysylltwch â thîm Arholiadau'r Gyfadran drwy e-bostio assessment-scienceengineering@abertawe.ac.uk neu darllenwch ddogfen Cwestiynau Cyffredin ynghylch Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol a chanllawiau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol.