Os yw'ch cyfartaledd gradd wedi'i bwysoli o fewn 2% i ffin y dosbarthiad gradd nesaf (sy'n cael ei alw'n 'Ffenestr Cyfle'), defnyddir yr egwyddorion mwyafrif (preponderance) a chyfradd welliant wrth ymadael (exit velocity). Mae hyn yn golygu y gallech ennill dosbarthiad uwch am eich gradd os ydych yn bodloni'r naill neu'r llall o'r egwyddorion hyn.
Yr Egwyddor Mwyafrif
Rhaid bod hanner y credydau sy'n cyfrif tuag at eich gradd mewn dosbarthiad uwch na'ch cyfartaledd gradd wedi'i bwysoli.
Yn achos gradd gychwynnol 3 blynedd, byddai hyn yn golygu ennill 120+ o gredydau ar ffin y dosbarthiad uwch.
Yn achos gradd gychwynnol uwch 4 blynedd, byddai hyn yn golygu ennill 180+ o gredydau ar ffin y dosbarthiad uwch.
Enghraifft:
- Blwyddyn 2 - 40 credyd rhwng 50% a 59% (2:2) ac 80 credyd rhwng 60% a 69% (2:1).
- Blwyddyn 3 - 80 credyd rhwng 50% a 59% (2:2), 30 credyd rhwng 60% a 69% (2:1) a 10 credyd ar 70+% (1af).
- Cyfartaledd Gradd wedi'i Bwysoli - 58.37% (2:2).
- Canlyniad Terfynol - wedi'i uwchraddio i 2:1 am y rhesymau canlynol:
1) Mae'r cyfartaledd gradd wedi'i bwysoli o fewn y Ffenestr Cyfle.
2) Bodlonir yr egwyddor Mwyafrif, h.y. Roedd 80 credyd ym Mlwyddyn 2 a 40 credyd ym Mlwyddyn 3 yn uwch na dosbarthiad 2:2. Mae hynny'n rhoi 120 o gredydau mewn dosbarthiad gradd uwch na'r cyfartaledd gradd wedi'i bwysoli.
Yr Egwyddor Cyfradd Welliant wrth Ymadael
Rhaid i chi gyflawni cyfartaledd yn eich blwyddyn olaf sydd mewn dosbarthiad gradd uwch na chyfartaledd wedi'i bwysoli eich gradd.
Enghraifft:
- Cyfartaledd Gradd wedi'i Bwysoli - 58.37% (2:2).
- Cyfartaledd y Flwyddyn Olaf - 61.23% (2:1).
- Canlyniad Terfynol - wedi'i uwchraddio i 2:1 am y rhesymau canlynol:
1) Mae'r cyfartaledd gradd wedi'i bwysoli o fewn y Ffenestr Cyfle.
2) Bodlonir yr egwyddor Cyfradd Welliant wrth Ymadael, h.y. mae cyfartaledd y flwyddyn olaf mewn dosbarthiad gradd uwch na'r cyfartaledd gradd wedi'i bwysoli.