OPSIYNAU AR GYFER AIL-WNEUD MODIWLAU / AIL- WNEUD LEFEL
Rhoir penderfyniadau i Ail-wneud Lefel Astudio i fyfyrwyr Blwyddyn Sylfaen, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 sydd wedi pasio modiwlau gwerth rhwng 20 a 60 credyd ar gyfer y lefel. Rhyddheir y canlyniadau terfynol wedi'u cadarnhau ar gyfer Semester 1 a Semester 2 (Tymor y Gwanwyn) ar 17 Gorffennaf 2023 ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau.
Ar gyfer myfyrwyr a fydd yn sefyll asesiadau atodol neu asesiadau sydd wedi'u gohirio ym mis Awst, rhyddheir y canlyniadau hyn ar 14 Medi.
Os ydych yn derbyn penderfyniad i Ail-wneud Lefel Astudio pan ryddheir y canlyniadau naill ai ym mis Gorffennaf neu ym mis Medi, ystyriwch y ddau opsiwn isod, a chysylltwch â Thîm Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran os oes gennych gwestiynau.
Os byddwch yn derbyn penderfyniad ‘Ail-wneud Lefel Astudio’, bydd gennych ddau opsiwn. Heb ystyried pa opsiwn rydych yn ei ddewis, rydym yn argymell eich bod yn darllen yr wybodaeth am Ailadrodd Lefel a Modiwlau yn y canllaw Amgylchiadau Esgusodol a Goblygiadau Ariannol sydd ar gael gan Arian@BywydCampws. Os ydych yn fyfyriwr Rhyngwladol neu o'r UE gyda fisa Llwybr Myfyrwyr, rydym hefyd yn eich annog i ymgynghori â Rhyngwladol@BywydCampws o ran goblygiadau'r fisa i'ch helpu i benderfynu pa opsiwn sydd orau i chi.