Dosbarthiad Graddau Anrhydeddus

3.1 CYFLWYNIAD

Bydd yr holl fodiwlau sy'n cael eu hastudio ar Lefel 5, 6 a 7 a'u haddysgu yn Abertawe, neu mewn lleoliad arall yn lle Abertawe, yn cyfrannu at y dosbarthiad terfynol, h.y. 240 o bwyntiau credyd ar gyfer rhaglen tair blynedd ynghyd â modiwlau sy'n cael eu hastudio ar Lefel S, os yw'n berthnasol, a 360 o bwyntiau credyd ar gyfer rhaglen pedair blynedd ynghyd â modiwlau sy'n cael eu hastudio ar Lefel S, os yw'n berthnasol. Ni fydd canlyniadau modiwlau sy'n cael eu hastudio ar Lefel T neu Lefel E yn cyfrannu at ddosbarthiad graddau fel arfer.

Mae'n rhaid bod myfyrwyr wedi astudio 240 (neu 360) o bwyntiau credyd yn ystod y ddwy flynedd (neu dair blynedd) sy'n cyfrannu at ddosbarthiad eu gradd. Ni chaiff unrhyw fodiwlau sy'n cael eu hastudio ar ben y 240 (neu 360) o gredydau a modiwlau Lefel S, os yw'n berthnasol, eu hystyried at ddiben dosbarthiad.

3.1.1      Bandiau Dosbarthiad

Fel arfer, cyfrifir dosbarth gradd ymgeisydd ar sail y marc cyfartalog â phwysiad ar gyfer yr holl fodiwlau, gan gynnwys marciau methiannau a oddefir, sy'n cyfrannu at asesiad yr anrhydedd gan ddefnyddio'r ffiniau dosbarthiad canlynol:

Dosbarth y RaddCyfartaledd â Phwysiad
Anrhydedd Dosbarth Cyntaf 70%+
Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch 60-69.99%
Anrhydedd Ail Ddosbarth Is 50-59.99%
Anrhydedd Trydydd Dosbarth 40-49.99%
Gradd Basio 35-39.99%

3.2 CYMHWYSEDD YMGEISYDD I GAEL EI YSTYRIED AM DDYFARNIAD

Wrth ystyried a yw myfyriwr yn gymwys i gael ei ystyried am ddyfarniad, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn ystyried perfformiad cyffredinol yr ymgeisydd yn ystod y Lefelau Astudio sy'n cyfrannu at y dyfarniad, h.y. ar gyfer gradd gychwynnol, lefelau 5 a 6 fel arfer, a lefelau 5, 6 a 7 ar gyfer gradd gychwynnol uwch fel arfer.

Ceir manylion pellach yn y llyfryn Rheoleiddio Graddau Baglor Israddedig 8:

3.3 ACHOSION FFINIOL

Mae'r Egwyddorion Arweiniol canlynol wedi'u llunio i gynorthwyo Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol i ystyried achosion ffiniol wrth benderfynu ar ddosbarthiad graddau. Dylid defnyddio'r Egwyddorion hyn ochr yn ochr â'r dull bandiau diwygiedig o bennu dosbarthiad a chânt eu hystyried ym mhob achos pan fydd cyfartaledd dosbarthiad myfyriwr o fewn 2% o ffin dosbarthiad. Mae'r egwyddorion hyn yn berthnasol i ymgeiswyr am raddau cychwynnol a'r rhai sy'n astudio am raddau cychwynnol uwch.

Dylai Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol godi dosbarthiad myfyriwr os yw ei berfformiad o fewn 2% o'r ffin ac os yw'n bodloni meini prawf 3.3.2 (yr Egwyddor Mwyafrif) a/neu 3.3.3 (yr Egwyddor Cyflymder Ymadael).

Mae'r Egwyddorion hyn hefyd yn tybio na fydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn newid marciau a gadarnhawyd gan Fyrddau Arholi'r Cyfadrannau/Ysgolion.

Ni chaniateir arholiadau llafar at ddiben penderfynu ar ddosbarthiad gradd yn achos ymgeiswyr sy'n astudio am raddau israddedig.

3.3.1  Yr Egwyddor Mwyafrif

Pan fydd cyfartaledd dosbarthiad myfyriwr o fewn 2% o ffin dosbarthiad, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn ystyried cyfran y marciau a enillwyd gan y myfyriwr ym mhob band dosbarthiad. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn ystyried y marciau hynny a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r dosbarthiad yn unig (h.y. lefelau 5 a 6 fel arfer). Ni ddylid defnyddio marciau lefel S yn yr egwyddor mwyafrif.

Er mwyn dyfarnu’r dosbarthiad uwch, mae’n rhaid bod myfyriwr wedi ennill marciau ym mand y dosbarthiad uwch mewn modiwlau â phwysiad credydau gwerth o leiaf hanner y rheiny sy’n cyfrannu at ddosbarthiad y radd.

Myfyrwyr sydd wedi astudio 240 o gredydau ar gyfer gradd gychwynnol:

FfiniolGofynion Dosbarthiad Uwch
1 – 2i 120+ credyd ar 70%+
2i - 2ii 120+ credyd ar 60%+
2ii - 3 120+ credyd ar 50%+
3 - 3 - Llwyddo ar 40%+    120+ credyd 

Myfyrwyr sydd wedi astudio 360 o gredydau ar gyfer gradd gychwynnol uwch:

FfiniolGofynion Dosbarthiad Uwch
1 – 2i 180+ credyd ar 70%+
2i - 2ii 180+ credyd ar 60%+
2ii - 3 180+ credyd ar 50%+
3 - 3 - Llwyddo ar 40%+    180+ credyd 

Sylwer: *Mae'r rheolau dosbarthiad ar gyfer myfyrwyr sy'n cael eu derbyn yn uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd yn 'seiliedig ar gyfartaledd y modiwlau a astudiwyd yn Abertawe yn ystod y flwyddyn olaf’.

3.3.2    Yr Egwyddor Cyflymder Gadael

Pan fydd cyfartaledd dosbarthiad myfyriwr o fewn 2% o ffin dosbarthiad, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn ystyried cyfartaledd y flwyddyn astudio olaf heb bwysiad. (Bydd y cyfartaledd hwn wedi'i gyfrifo at ddibenion dyfarnu credyd y flwyddyn olaf).

Pan fydd cyfartaledd blwyddyn olaf myfyriwr ym mand y dosbarthiad uwch, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn dyfarnu gradd yn y dosbarth uwch fel arfer.

3.4 Y SYSTEM BANDIAU DDIWYGIEDIG

(Pob rhaglen ac eithrio Rhaglenni Peirianneg ag Achrediad Proffesiynol).

3.4.1   Pennu'r Marc Cyfartalog

Bydd dosbarthiad ymgeiswyr yn seiliedig ar eu marc cyfartalog â phwysiad ar gyfer yr holl fodiwlau sy'n cael eu hastudio y tu hwnt i lefel 4, ac eithrio'r Flwyddyn Bontio (Cymraeg).

Felly, mewn rhaglenni gradd gychwynnol, byddai'r cyfartaledd â phwysiad yn cael ei gyfrifo ar sail modiwlau sy'n cynnig 240 o gredydau y byddai'r ymgeisydd wedi'u hastudio yn lefelau 5 a 6 (h.y. blwyddyn 2 a'r flwyddyn olaf fel arfer i ymgeiswyr amser llawn). Yn achos graddau cychwynnol uwch, byddai'r cyfartaledd â phwysiad yn cael ei gyfrifo ar sail marciau modiwlau sy'n cynnig 360 o gredydau y byddai'r myfyriwr wedi'u hastudio yn lefelau 5, 6 a 7 (h.y. blynyddoedd 2 a 3 a'r flwyddyn olaf fel arfer yn achos ymgeiswyr amser llawn). Rhoddir manylion y rheolau sy'n berthnasol i ddosbarthiad rhaglenni â blwyddyn ychwanegol neu semestrau astudio dramor isod.

Dyfernir marc ar gyfer pob modiwl i fyfyrwyr ar sail eu perfformiad yn y cydrannau amrywiol a asesir. Caiff y marciau hynny eu dyfarnu i un o 3/4 band, gan ddibynnu ar lefel y modiwl, y marc a phwysiad credyd y modiwl. (h.y. caiff marciau ar gyfer modiwlau lefel 6 eu gosod ym Mand 3 neu 2; caiff marciau ar gyfer modiwlau lefel 5 eu gosod ym Mand 2 neu 1, gan ddibynnu ar y perfformiad).

Yn achos gradd gychwynnol, gosodir y marciau yn 80 credyd gorau'r flwyddyn olaf ym Mand 3 a gosodir marciau'r 40 credyd sy'n weddill ym Mand 2. Gosodir y marciau yn y 40 credyd gorau yn Lefel 5 ym Mand 2 a gosodir gweddill marciau Lefel 5 ym Mand 1. Caiff yr egwyddor hon ei haddasu ychydig ar gyfer rhaglenni sy'n cynnwys blwyddyn ychwanegol o astudio dramor/mewn diwydiant*. Gweler isod.

Felly, cyfrifir marc cyfartalog â phwysiad ar gyfer dosbarthiad y radd ar sail y fformiwla ganlynol:

Graddau Cychwynnol Tair Blynedd

  • Band 3: Y marciau gorau a enillwyd mewn 80 credyd a ddilynwyd ar Lefel 6, â phwysiad o 3
  • Band 2: Y marciau Lefel 6 o’r 40 credyd a ddilynwyd sy’n weddill a’r marciau gorau a enillwyd mewn 40 credyd a ddilynwyd ar Lefel 5, â phwysiad o 2
  • Band 1: Y marciau a enillwyd yn y credydau Lefel 5 a ddilynwyd sy’n weddill, â phwysiad o 1

Yna defnyddir fformiwla i gyfrifo cyfartaledd dosbarthiad y radd.

Graddau cychwynnol pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn neu semestrau dramor/mewn diwydiant*

  • Band 3: Y marciau gorau a enillwyd mewn 80 credyd a ddilynwyd ar Lefel 6, â phwysiad o 3
  • Band 2: Y marciau Lefel 6 o’r 40 credyd a ddilynwyd sy’n weddill a’r marciau gorau a enillwyd mewn 40 credyd a ddilynwyd ar Lefel 5, â phwysiad o 2
  • Band 1: Y marciau a enillwyd yn y credydau Lefel 5 a ddilynwyd sy’n weddill, â phwysiad o 1
  • Band S: Marciau o'r flwyddyn neu'r semestrau astudio a dreuliwyd dramor/mewn diwydiant (os yw'n berthnasol) â phwysiad o 1.

Yna defnyddir fformiwla i gyfrifo cyfartaledd dosbarthiad y radd.

* Yn achos myfyrwyr sydd wedi dilyn rhaglenni pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn neu semestrau dramor/mewn diwydiant, ni ddefnyddir y fformiwla uchod i gyfrifo dosbarthiad oni bai ei fod er mantais yr ymgeisydd. Yn yr achosion hynny lle na fydd ymgorffori marc Lefel S yn gwella'r marc cyffredinol â phwysiad, defnyddir y fformiwla safonol a ddefnyddir i gyfrifo dosbarthiad graddau tair blynedd.

Graddau Cychwynnol Uwch Pedair Blynedd

  • Band 4: Y marciau gorau mewn 90 credyd a ddilynwyd ar Lefel 7, â phwysiad o 4
  • Band 3: Gweddill y marciau mewn 30 credyd a ddilynwyd ar Lefel 7 a’r marciau gorau mewn 60 credyd a ddilynwyd ar Lefel 6, â phwysiad o 3
  • Band 2: Gweddill y marciau mewn 60 credyd a ddilynwyd ar Lefel 6 a’r marciau gorau mewn 30 credyd a ddilynwyd ar Lefel 5, â phwysiad o 2
  • Band 1: Gweddill y marciau mewn 90 credyd a ddilynwyd ar Lefel 5 gyda phwysiad o 1

Yna defnyddir fformiwla i gyfrifo cyfartaledd dosbarthiad y radd.

Graddau Cychwynnol Uwch Pum Mlynedd sy'n cynnwys Blwyddyn Dramor/Mewn Diwydiant

  • Band 4: Y marciau gorau mewn 90 credyd a ddilynwyd ar Lefel 7, â phwysiad o 4
  • Band 3: Gweddill y marciau mewn 30 credyd a ddilynwyd ar Lefel 7 a’r marciau gorau mewn 60 credyd a ddilynwyd ar Lefel 6, â phwysiad o 3
  • Band 2: Gweddill y marciau mewn 60 credyd a ddilynwyd ar Lefel 6 a’r marciau gorau mewn 30 credyd a ddilynwyd ar Lefel 5, â phwysiad o 2
  • Band 1: Gweddill y marciau mewn 90 credyd a ddilynwyd ar Lefel 5 gyda phwysiad o 1
  • Band S: Marc o'r flwyddyn astudio a dreuliwyd dramor neu mewn diwydiant (os yw'n berthnasol) â phwysiad o 1.

Yna defnyddir fformiwla i gyfrifo cyfartaledd dosbarthiad y radd.

Mynediad Uniongyrchol i'r Flwyddyn Olaf

Byddai marciau modiwlau a ddilynwyd naill ai ar Lefel 6 neu Lefel 7 sy'n cynnig cyfanswm o 120 credyd yn derbyn pwysiad o 1 (h.y. cyfartaledd â phwysiad modiwlau a ddilynwyd).

Mynediad Uniongyrchol i Lefel 6 Gradd Gychwynnol Uwch

Byddai'r marciau o fodiwlau a ddilynwyd yn ystod lefelau 6 a 7, sy’n cynnig cyfanswm o 240  credyd, yn derbyn pwysiad cyfartal.

Sylwer: Mae'r rheoliadau ynghylch dosbarthiad yn gymwys i'r holl raglenni anrhydedd oni bai fod gofynion corff proffesiynol yn dynodi'n wahanol. Mewn achosion o’r fath, gellir cyflwyno amrywiadau, os tybir bod hynny'n angenrheidiol.

3.5 Y SYSTEM BANDIAU AR GYFER RHAGLENNI PEIRIANNEG  ISRADDEDIG ACHREDEDIG

3.5.1   Pennu'r Marc Cyfartalog

Cyfrifir dosbarthiad ymgeiswyr ar sail eu marciau cyfartalog â phwysiad ar gyfer yr holl fodiwlau a ddilynwyd y tu hwnt i Lefel 4.

Felly, mewn rhaglenni gradd gychwynnol, byddai'r marc cyfartalog â phwysiad yn cael ei gyfrifo ar sail marciau modiwlau sy'n cynnig 240 o gredydau a fyddai wedi cael eu dilyn yn lefelau 5 a 6 (h.y. Blwyddyn 2 a'r flwyddyn olaf fel arfer i ymgeiswyr amser llawn). Yn achos rhaglenni gradd gychwynnol uwch, byddai'r cyfartaledd â phwysiad yn cael ei gyfrifo ar sail marciau modiwlau sy'n cynnig 360 o gredydau a ddilynwyd yn lefelau 5, 6 a 7 (h.y. blwyddyn 2 a 3 a'r flwyddyn olaf fel arfer i ymgeiswyr amser llawn). Rhoddir isod manylion y rheolau ar gyfer cyfrifo dosbarthiad rhaglenni â blwyddyn ychwanegol o astudio dramor/mewn diwydiant.

Dyfernir marc ar gyfer pob modiwl i fyfyrwyr ar sail eu perfformiad yn y cydrannau amrywiol a asesir. Dyrennir y marciau hynny i un o 2/3 band, gan ddibynnu ar lefel y modiwl.

Yn achos rhaglenni gradd gychwynnol, gosodir y marciau ar gyfer lefel 6 ym Mand 2 a gosodir y marciau ar gyfer lefel 5 ym Mand 1. Caiff yr egwyddor hon ei haddasu ychydig ar gyfer rhaglenni sy'n cynnwys blwyddyn ychwanegol o astudio dramor/mewn diwydiant. Gweler isod.

Felly, cyfrifir y marc cyfartalog â phwysiad ar gyfer dosbarthiad y radd gan ddefnyddio'r fformiwlâu canlynol.

Graddau Cychwynnol Tair Blynedd

Band 2: Marciau lefel 6 â phwysiad o 2
Band 1: Marciau lefel 5 â phwysiad o 1 

Yna defnyddir y fformiwla i gyfrifo cyfartaledd dosbarthiad y radd.

Graddau cychwynnol pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn dramor/mewn diwydiant *

Band 2: Marciau lefel 6 â phwysiad o 2 
Band 1: Marciau lefel 5 â phwysiad o 1 

*I fyfyrwyr sy'n astudio mewn Prifysgol dramor yn ystod y flwyddyn ryngosodol (Lefel S), cyfeirir at y marciau a ddyfernir hefyd wrth gyfrifo'r dosbarthiad. Os yw'r marc ar gyfer y cyfnod o astudio dramor yn well na chyfartaledd yr ail flwyddyn, bydd y marciau a ddyfarnwyd am y flwyddyn ryngosodol yn cyfrannu at y dosbarthiad terfynol. (Cyfanswm marciau Lefel 5 x 0.75 + marciau rhyngosodol x 0.25)
Cyfrifir dosbarthiad myfyrwyr ar raglenni â blwyddyn mewn diwydiant gan ddefnyddio'r dull ar gyfer graddau cychwynnol tair blynedd. Cyfeirir at y flwyddyn i ffwrdd o Abertawe fel Lefel E neu flwyddyn brofiad, a chaiff ei hasesu ar sail llwyddo/methu fel arfer. Ni fydd y canlyniad hwn yn cyfrannu at ddosbarthiad terfynol y radd.
Yna defnyddir y fformiwla i gyfrifo cyfartaledd dosbarthiad y radd.

Graddau Cychwynnol Uwch Pedair Blynedd

  • Band 3: Marciau lefel 7 â phwysiad o 2
  • Band 2: Marciau lefel 6 â phwysiad o 2
  • Band 1: Marciau lefel 5 â phwysiad o 1

Yna defnyddir y fformiwla i gyfrifo cyfartaledd dosbarthiad y radd.

Graddau Cychwynnol Uwch Pum Mlynedd sy'n cynnwys Blwyddyn Dramor/Mewn Diwydiant*

  • Band 3: Marciau lefel 7 â phwysiad o 2
  • Band 2: Marciau lefel 6 â phwysiad o 2
  • Band 1: Marciau lefel 5 â phwysiad o 1

*I fyfyrwyr sy'n astudio mewn Prifysgol dramor yn ystod y flwyddyn ryngosodol (Lefel S), cyfeirir at y marciau a ddyfernir hefyd wrth gyfrifo'r dosbarthiad. Os yw'r marc ar gyfer y cyfnod o astudio dramor yn well na chyfartaledd yr ail flwyddyn, bydd y marciau a ddyfarnwyd am y flwyddyn ryngosodol yn cyfrannu at y dosbarthiad terfynol. (Cyfanswm marciau Lefel 5 x 0.75 + marciau rhyngosodol x 0.25)

Cyfrifir dosbarthiad myfyrwyr ar raglenni â blwyddyn mewn diwydiant gan ddefnyddio'r dull ar gyfer graddau cychwynnol tair blynedd. Cyfeirir at y flwyddyn i ffwrdd o Abertawe fel Lefel E neu flwyddyn brofiad, a chaiff ei hasesu ar sail llwyddo/methu fel arfer. Ni fydd y canlyniad hwn yn cyfrannu at ddosbarthiad terfynol y radd.

Yna defnyddir y fformiwla i gyfrifo cyfartaledd dosbarthiad y radd.

Mynediad Uniongyrchol i'r Flwyddyn Olaf

Byddai marciau modiwlau a ddilynwyd naill ai ar Lefel 6 neu Lefel 7 sy'n cynnig cyfanswm o 120 credyd yn derbyn pwysiad o 1 (h.y. cyfartaledd â phwysiad modiwlau a ddilynwyd).

Mynediad Uniongyrchol i Lefel 6 Gradd Gychwynnol Uwch

Byddai'r marciau o fodiwlau a ddilynwyd yn ystod lefelau 6 a 7, sy’n cynnig cyfanswm o 240  credyd, yn derbyn pwysiad cyfartal.

3.6

Dyfarniadau Aegrotat

Gweler y Rheoliadau Dyfarniadau Aegrotat yn Asesu a Dilyniant.

3.7

Dyfarniadau ar Ôl Marwolaeth

Gweler y Rheoliadau ar Ddyfarniadau ar ôl Marwolaeth yn Asesu a Dilyniant.