Hapus - Y Pecyn Cymorth Bywyd Myfyrwyr

Efallai y byddi di'n cael emosiynau neu brofiadau negyddol wrth bontio i fywyd ym Mhrifysgol Abertawe neu yn ystod dy amser yn y brifysgol. Mae hyn yn hollol normal. Rydyn ni’n deall y gall bywyd yn y brifysgol fod yn gyffrous ac yn llethol, a dyna pam rydyn ni am roi strategaethau i ti a fydd yn ddefnyddiol yn ystod dy amser yn Abertawe.

Mae Hapus yn gwrs ar-lein sy'n dy baratoi am yr heriau meddyliol, emosiynol ac ymarferol yn y brifysgol.

Bydd yn rhoi i ti’r wybodaeth a'r adnoddau i allu mynd i'r afael â materion fel:

  • Gorbryder cymdeithasol
  • Hwyliau isel
  • Gohirio
  • Rheoli dy arian 
  • Ysgytwad diwylliannol
  • Rheoli straen ac ansicrwydd,
  • Meithrin gwytnwch
  • Rheoli teimladau o ynysu ac unigrwydd
  • Arweiniad ynghylch ffordd iach o fyw
  • Ynghyd â gwybodaeth am yr holl wasanaethau cymorth sydd ar gael i ti yn ystod dy amser ym Mhrifysgol Abertawe.

Rydyn ni'n argymell dy fod yn gweithio drwy'r pecyn cymorth yn ystod wythnosau cyntaf y tymor neu cyn i ti gyrraedd Abertawe os wyt ti'n fyfyriwr newydd. Bydd yn cymryd tuag awr, ond nid oes angen i ti gwblhau popeth ar yr un pryd; cymera dy amser, cadw’r cynnydd a dychwelyd yn hwyrach.

Gelli di gyrchu'r cwrs drwy dy gyfrif Canvas, ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydyn ni hefyd wedi creu cwrs i dy rieni, dy bartneriaid a dy warcheidwaid, felly a wnei di rannu hwn â nhw.

Os wyt ti'n cael trafferth yn cyrchu'r cwrs drwy dy gyfrif Canvas neu os nad oes gennyt ti gyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd, e-bostia welcome.campuslife@abertawe.ac.uk a byddwn yn anfon y cwrs hapus atat ti.

Rydyn ni'n croesawu dy adborth. Os hoffet ti wneud awgrymiadau ynghylch sut gallwn ni wella'r pecyn cymorth, clicia yma.