Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall ymgeiswyr deimlo eu bod dan orfodaeth, am wahanol resymau, i ohirio eu hastudiaethau yn ystod sesiwn academaidd. Mewn achosion o’r fath, gall ymgeiswyr gyflwyno cais i ohirio eu hastudiaethau. Dylid nodi nad oes hawl gan ymgeiswyr i ohirio eu hastudiaethau; yn hytrach rhaid cyflwyno cais i ohirio a rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gan y Gyfadran a'u cymeradwyo gan y Gofrestrfa Academaidd neu'r Deon.
Dim ond yn ystod cyfnod hwyaf posibl eu hymgeisiaeth y caniateir i ymgeiswyr israddedig gyflwyno cais i ohirio eu hastudiaethau. Ni chaiff ceisiadau y tu allan i'r cyfnod hwn eu hystyried oni bai fod yr Ysgol yn cyflwyno cais llwyddiannus i estyn eich ymgeisyddiaeth.
Sylwer na chaniateir i fyfyrwyr israddedig na myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir amser llawn ohirio ar ôl diwrnod cyntaf Tymor yr Haf ac eithrio am resymau iechyd neu resymau anorchfygol eraill.
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, fe'ch anogir yn gryf i gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol cyn gohirio'ch astudiaethau, oherwydd y bydd goblygiadau o ran eich statws mewnfudo. Bydd yn ofynnol i'r Brifysgol hysbysu Asiantaeth Ffiniau'r DU am fyfyrwyr sydd wedi gohirio eu hastudiaethau. Disgwylir i fyfyrwyr â theitheb Haen 4 ddychwelyd adref a chyflwyno cais am deitheb newydd.
Gweler isod y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn os hoffech ohirio'ch astudiaethau yn y Brifysgol.
- Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais ysgrifenedig i ohirio'ch astudiaethau drwy gwblhau'r ffurflen atodedig. Fel rheol, disgwylir i chi fynd i gyfweliad gydag aelod o staff eich Cyfadran a chysylltu ag aelod o'r Gofrestrfa Academaidd am gyngor
- Gallwch gyflwyno cais i ohirio am y rhesymau canlynol:
- Iechyd (gan gynnwys rhesymau meddygol/anabledd)
- amgylchiadau personol eithriadol
- ariannol
- pan fydd yr ymgeisydd yn bwriadu trosglwyddo i gynllun arall
Cyn i chi gael caniatâd i ailddechrau eich astudiaethau, bydd y Brifysgol yn gofyn am gadarnhad o'ch ffitrwydd meddygol (os yw'n briodol) neu gadarnhad eich bod wedi goresgyn y problemau a oedd yn sail gohirio, pan fyddwch yn dychwelyd i'r Brifysgol (gweler y rheoliadau ynghylch gohirio yn y Canllaw Academaidd).
Ac eithrio achosion o gyflyrau iechyd difrifol sydd wedi'u hategu gan dystiolaeth feddygol, caniateir i'r Brifysgol wrthod cais i ohirio astudiaethau. Yn achos ymgeiswyr sy’n teimlo bod rhaid iddynt ohirio eu hastudiaethau ar ôl diwrnod cyntaf tymor yr haf am resymau iechyd, caiff eu ceisiadau eu hystyried yn unigol a bydd rhaid cyflwyno'r ddogfennaeth briodol.
3. Mae'n rhaid i chi gwblhau holl adrannau'r ffurflen, gan gynnwy
- Eich rheswm dros benderfynu gohirio'ch astudiaethau (e.e. ariannol, iechyd neu resymau personol). SYLWER, OS OES GENNYCH ANAWSTERAU ARIANNOL, MAE'N BOSIB Y BYDD Y BRIFYSGOL YN GALLU HELPU. CYSYLLTWCH Â studentsupport-scienceengineering@swansea.ac.uk AM RAGOR O WYBODAETH.
- Cadarnhad o ddyddiad eich presenoldeb olaf ar y rhaglen a'r dyddiad rydych yn bwriadu ailddechrau'ch astudiaethau. Sylwer, caiff dyddiad eich presenoldeb olaf ei gyfrif fel y diwrnod olaf i chi fynd i seminar addysgu/tiwtorial/darlith ac ati mewn person yn ystod y tymor addysgu, YN OGYSTAL â'r dyddiad olaf i chi gyrchu adnoddau addysgu ar Canvas; pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf. Mae'n bwysig bod y dyddiad hwn yn gywir oherwydd y caiff ei ddefnyddio i gyfrifo unrhyw ran o'r ffioedd dysgu i'w had-dalu ac i asesu a fydd angen ad-dalu unrhyw grant.
Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr amser llawn ailgydio yn eu hastudiaethau ar ddechrau’r sesiwn ganlynol, h.y. dychwelyd yn y mis Medi canlynol (â chaniatâd eu Cyfadran) ac ailddechrau’r flwyddyn/lefel astudio (gan fforffedu’n awtomatig unrhyw gredyd a enillwyd eisoes). Mewn rhai achosion, e.e. ymgeiswyr rhan-amser, gellir ystyried ei bod yn fwy priodol i ymgeiswyr ailgydio yn eu hastudiaethau flwyddyn yn union ar ôl iddynt ohirio. Mewn achosion o’r fath, bydd yr ymgeiswyr yn cario unrhyw farciau sydd ganddynt eisoes drosodd, os yw'r Gyfadran yn cymeradwyo hynny.
4. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen, dylech ei hanfon i studentsupport-scienceengineering@swansea.ac.uk er mwyn i aelod staff perthnasol y Gyfadran ei llofnodi
5. Pan fydd eich ffurflen wedi'i chymeradwyo, bydd y Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr yn eich hysbysu am y canlyniad ac, os yw'n briodol, yn diweddaru'ch cofnod. Bydd hefyd yn rhoi gwybod i'ch Cyfadran, y Swyddfa Gyllid, y Swyddfa Llety a'r Llyfrgell a'r awdurdodau mewnfudo yn achos myfyrwyr rhyngwladol.
6. Ailddechrau Astudiaethau. Cyn eich dyddiad dychwelyd disgwyliedig, byddwch yn derbyn llythyr ailddechrau astudiaethau, yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn dychwelyd ac yn eich cynghori ar gofrestru. Os nad ydych wedi darparu dyddiad dychwelyd penodol ar y ffurflen hon, defnyddir dyddiad dechrau nesaf y cwrs nesaf i gofnodi'ch dyddiad dychwelyd disgwyliedig.