ASTUDIAETH ACHOS 1
Mae David yn penderfynu tynnu'n ôl o'i gwrs hanner ffordd drwy'r tymor yn ystod ei ail flwyddyn oherwydd nad yw'n mwynhau ei gwrs.
ASTUDIO BLAENOROL - Nid yw David wedi astudio ar lefel addysg uwch cyn y cwrs hwn. Gan fod David wedi cwblhau blwyddyn un a chofrestru ar Flwyddyn 2, mae wedi defnyddio dwy flynedd o astudio. Os penderfyna David ddychwelyd i astudio ar lefel addysg uwch yn y dyfodol, didynnir y ddwy flynedd hyn o'i hawl gyfan. Er enghraifft, pe bai David yn dychwelyd i astudio cwrs tair blynedd, byddai ganddo hawl i bedair blynedd o gyllid (tair blynedd ei gwrs ac un flwyddyn ychwanegol) ond byddai'n derbyn dwy flynedd o gyllid yn unig (4 blynedd - 2 flynedd o astudio blaenorol = 2 flynedd). Caiff y blynyddoedd hyn o gyllid eu dyrannu i ran olaf y cwrs. Mae hyn yn golygu y byddai angen i David dalu am flwyddyn gyntaf ei gwrs newydd ei hun oherwydd y byddai'n derbyn cyllid am ei drydedd flwyddyn a'i ail flwyddyn. Fel arfer, ni fydd blynyddoedd o astudio blaenorol yn effeithio ar fenthyciadau cynhaliaeth.
GOBLYGIADAU ARIANNOL - Bydd ar David ddyled gyfwerth â 25% o'r ffioedd am y flwyddyn academaidd hon. Bydd yn ad-dalu'r swm hwn pan fydd yn ennill mwy na'r cyflog trothwy.
Mae David wedi derbyn ei gyllid cynhaliaeth am y tymor cyntaf. Gan ei fod yn gadael hanner ffordd drwy'r tymor, bydd gan David ordaliad a gaiff ei gyfrifo ar sail pro rata o'r dyddiad olaf y buodd yn bresennol. Er enghraifft, pe bai David wedi derbyn £1000 am y tymor ac roedd y dyddiad olaf y buodd yn bresennol hanner ffordd yn union drwy'r tymor, byddai David wedi derbyn gordaliad o £500. Gan fod David yn tynnu'n ôl, byddai angen iddo ad-dalu'r swm hwn ar unwaith. Fodd bynnag, gall David gysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i drefnu cynllun ad-dalu.
ASTUDIAETH ACHOS 2
Mae angen i Sam ohirio ei hastudiaethau oherwydd rhesymau meddygol yn nhrydydd tymor Blwyddyn 1.
ASTUDIO BLAENOROL - Nid yw Sam wedi astudio ar lefel addysg uwch cyn y cwrs hwn. Mae Sam wedi defnyddio un flwyddyn o'i hawl i gyllid - byddai hyn yn cael ei ystyried fel defnyddio ei blwyddyn ychwanegol o gyllid. Felly, byddai gan Sam hawl i gyllid am weddill ei chwrs o hyd. Pe bai angen i Sam ddefnyddio blwyddyn arall yn y dyfodol, er enghraifft, o ganlyniad i ail-wneud elfen o'i chwrs neu ohirio astudiaethau, gallai wneud cais am gyllid dewisol ar sail rhesymau personol anorchfygol am fod rhesymau meddygol wedi ei gorfodi i ohirio.
GOBLYGIADAU ARIANNOL - Bydd ar Sam ddyled ar gyfer 100% o'i ffioedd am y flwyddyn academaidd hon, a bydd hi'n ad-dalu'r swm hwnnw pan fydd hi'n ennill dros y cyflog trothwy.
Mae Sam wedi derbyn ei chyllid cynhaliaeth am ei thrydydd tymor. Gan fod Sam yn gohirio am resymau meddygol, bydd ganddi hawl i 60 diwrnod o gyllid ychwanegol o'r dyddiad olaf y buodd yn bresennol. Felly, cyfrifir gordaliad Sam o'r dyddiad sy'n dilyn 60 diwrnod o'r dyddiad olaf y buodd yn bresennol. Os oes gordaliad o hyd ar ôl y 60 diwrnod, didynnir y swm hwnnw o gyllid cynhaliaeth Sam yn y flwyddyn academaidd pan fydd hi'n dychwelyd.