Eich Profiad Myfyrwyr mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Fel myfyriwr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, fe'ch anogir i...

  • Gymryd rhan lawn mewn digwyddiadau, cynlluniau a chymdeithasau a fydd yn eich helpu i gysylltu â'r cymunedau o'ch cwmpas.
  • Achub ar gyfleoedd hyblyg sy'n cefnogi eich datblygiad ac yn helpu i roi hwb i'ch CV.
  • Rhannu eich meddyliau a'ch adborth fel rhan o'n nod i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr tuag at wella'n barhaus eich profiad yn y Brifysgol.

Archwiliwch y tudalennau hyn i gael gwybod am yr holl gyfleoedd i gymryd rhan, meithrin sgiliau newydd a gwella'r rhai sydd gennych eisoes.

Eich Cymunedau Myfyrwyr

Pam mae hyn yn bwysig?

Fel myfyriwr yn Abertawe, rydych chi'n rhan o sawl cymuned yn awtomatig - a'ch penderfyniad chi yw sut rydych chi'n dymuno bod yn rhan o'r rhain.

Mae eich cymunedau myfyrwyr yn rhan allweddol o'r ffordd rydym yn cyfathrebu â chi, er mwyn sicrhau eich bod yn cael cyfleoedd, digwyddiadau a gwybodaeth sy'n berthnasol ac yn ddiddorol.

Yn ogystal, mae'n ein galluogi i gyfeirio eich cwestiynau a'ch adborth at staff priodol. Archwiliwch y tabiau isod i ddysgu rhagor am bob cymuned, a'n hawgrymiadau gwych ar gyfer cymryd rhan yn y rhain.

Eich Prifysgol Eich Cyfadran Eich Ysgol Eich Adran a'ch Rhaglen Eich Blwyddyn