Mae gofyn i chi ysgrifennu ar gyfer y rhan fwyaf o aseiniadau i'r brifysgol – a cheir rheswm da dros wneud hynny. Nid dangos ein dealltwriaeth o bwnc yw unig ddiben ysgrifennu – mewn llawer o achosion, dyma sut rydym yn dysgu. Un o'r sgiliau mwyaf pwysig i'w ddatblygu yn y brifysgol yw'r gallu i ddechrau gyda thudalen wag a rhoi trefn ar eich syniadau er mwyn creu rhywbeth sy'n rhesymegol, yn ddiddorol ac yn fewnweledol.
Ni fydd mireinio eich sgiliau yn y maes hwn o fudd i'ch marciau academaidd yn unig – mae traethawd diddorol wedi'i strwythuro'n dda yn bleser i unrhyw ddarlithydd – ond bydd eich gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda'r gair ysgrifenedig yn talu ar ei ganfed ym mhell y tu hwnt i'r brifysgol. Fel y mae Warren Buffet yn ei ddweud, wrth wynebu'r dewis rhwng dau ymgeisydd sy'n gyfartal â'i gilydd: "Cyflogwch yr ysgrifennydd gorau!"