Trosolwg | |
---|---|
Lefel 1, 2, 3, Master a lefel PhD | |
Cyrsiau bach byr ar-lein |
Mae’r cwrs Sgiliau Astudio Hanfodol yn gwrs Canvas sy’n llawn adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol ar gyfer darllen academaidd, ysgrifennu traethodau a sgiliau astudio allweddol eraill. Mae pob adnodd yn gryno a chaiff eich cynnydd ei gadw wrth i chi fynd yn eich blaen felly gallwch chi roi hwb i’ch sgiliau eich hun ar eich cyflymder eich hun.
MAES LLAFUR
Mae'r cwrs hunan-astudio hwn yn cynnwys y modiwlau canlynol:
Dysgu Sut i Ddysgu (Modiwl Cyfrwng Cymraeg)
Yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf ym maes gwyddor ddysgu, mae’r cyrsiau byr hyn yn cynnwys sut i gofio mwy, yn gyflymach, sut y gall eich ardal effeithio ar eich dysgu, a’r camau y gallwch chi eu cymryd er mwyn datrys problemau creadigol.
Darllen Academaidd
Er mwyn derbyn y budd mwyaf o’ch cwrs ac i ysgrifennu aseiniadau gwybodus, bydd angen i chi ddarllen amrywiaeth o ffynonellau. Fodd bynnag, heb feddu ar strategaethau i’ch helpu chi, mae’n hawdd darllen ffynhonnell heb ymgysylltu’n llwyr â’r testun gan arwain at wastraffu amser a diffyg dealltwriaeth. Mae’r cyrsiau byr hyn yn amlinellu rhai o’r gweithredoedd y gallwch chi eu cymryd er mwyn sicrhau bod yr amser rydych chi’n ei dreulio’n darllen yn fuddiol.
Ysgrifennu Academaidd
Bydd y cyrsiau byr sy’n rhan o’r modiwl hwn yn eich cyflwyno chi i’r ffyrdd mwyaf effeithiol ar gyfer ysgrifennu eich traethodau. Mae ysgrifennu academaidd da wedi’i seilio ar ddeall y cwestiwn a chynllunio effeithiol. Bydd treulio amser ar y gweithgareddau hyn yn eich helpu chi i lunio cyflwyniad a ysgrifennwyd yn dda, datganiad traethawd ymchwil clir, a phrif gorff cydlynol sy’n adeiladu dadl resymegol a chasgliad cryno sy’n cloi eich dadl yn effeithiol.