Mae'r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau awr canlynol:
SESIWN UN: STRWYTHUR BRAWDDEGAU (RHAN 1)
Bydd y sesiwn hon yn archwilio un o sylfeini ysgrifennu yn Saesneg: strwythur brawddegau. Bydd yn helpu myfyrwyr i nodi rhannau gwahanol y frawddeg, megis y goddrych, y ferf a'r dibeniad. Ar ddiwedd y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn gallu nodi'r cymalau gwahanol mewn brawddegau hwy, ac at hynny, rannau o frawddegau, sy'n wall cyffredin yng ngwaith ysgrifennu myfyrwyr.
SESIWN DAU: STRWYTHUR BRAWDDEGAU (RHAN 2)
Yn y sesiwn hon, caiff myfyrwyr eu haddysgu am bedwar strwythur brawddeg wahanol sef blociau adeiladu ysgrifennu academaidd. Ar ddiwedd y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn gallu creu brawddegau syml, cyfansawdd, cymhleth a chymhleth-gyfansawdd yn effeithiol. Bydd y sesiwn hon hefyd yn trafod yr atalnodi a'r cysyllteiriau cywir y mae eu hangen er mwyn adeiladu brawddegau sydd â sawl cymal.
SESIWN TRI: CYMHARU A CHYFERBYNNU (RHAN 1)
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn archwilio'r iaith a ddefnyddir i gymharu a chyferbynnu. Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio cymariaethau a'r radd eithaf, addasu cymariaethau, a defnyddio iaith gymharu i drafod testun academaidd.
SESIWN PEDWAR: CYMHARU A CHYFERBYNNU (RHAN 2)
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yr wythnos flaenorol gan ddefnyddio geiriau cysylltu/arwyddo i egluro cymariaethau. Mae dysgu sut i ddefnyddio geiriau cysylltu’n effeithiol yn ychwanegu at gydlyniad testun ysgrifenedig. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio geiriau cysylltu i nodi nodweddion tebyg a gwahanol mewn testunau byr a hir, a nodi diben geiriau cysylltu mewn testunau academaidd. Yn ogystal, caiff strwythurau gwahanol traethodau cymharu eu trafod.
SESIWN PUMP: ACHOS AC EFFAITH (RHAN 1)
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn archwilio iaith achos ac effaith, ac yn dysgu sut i ddefnyddio berfau a chysyllteiriau i osod pwyslais ar naill ai achos neu effaith mewn darn o ysgrifennu. Bydd strategaethau gwahanol i ddeall testunau achos ac effaith yn cael eu trafod, a bydd myfyrwyr yn ymarfer ysgrifennu â chywair academaidd i ddisgrifio perthynas achos ac effaith.
SESIWN CHWECH: ACHOS AC EFFAITH (RHAN 2)
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yr wythnos flaenorol drwy adolygu ac adeiladu geirfa achos ac effaith, a defnyddio'r eirfa'n effeithiol i ddeall testunau academaidd a strwythurau traethawd. Bydd myfyrwyr hefyd yn trafod pryd y bydd hi'n briodol defnyddio’r stad weithredol neu’r stad oddefol mewn ysgrifennu academaidd, gan ymarfer llunio brawddegau yn y stad oddefol.
SESIWN SAITH: CYFFREDINOLIADAU A SICRWYDD (RHAN 1)
Bydd y sesiwn hon yn trafod sefyllfaoedd mewn ysgrifennu academaidd pan y bydd hi'n ddoeth osgoi defnyddio cyffredinoliadau, a phryd y bydd hi'n dda eu defnyddio. Bydd myfyrwyr yn dysgu nodi cyffredinoliadau mewn testunau hwy, ac yna defnyddio cyffredinoliadau i ddisgrifio pwyntiau o ddiddordeb. Yna bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i gategoreiddio graddau cyffredinoliad, amlder adferfau a thebygolrwydd.
SESIWN WYTH: CYFFREDINOLIADAU A SICRWYDD (RHAN 2)
Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio agwedd wahanol ar gyffredinoliad a sicrwydd, a chaiff y syniad o ddefnyddio iaith amhendant (a elwir weithiau'n iaith ofalus) ei gyflwyno. Bydd myfyrwyr yn dysgu nodi brawddegau a geiriau amhendant, a byddant yn defnyddio berfau moddol, adferfau a berfau i fynegi graddau o sicrwydd mewn ysgrifennu academaidd.
SESIWN NAW: NIFEROEDD A DATA
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu iaith/geirfa gyffredinol am ddefnyddio rhifau mewn testun. Byddant yn dysgu defnyddio brawddegau rhifiadol a therminoleg gyffredinol i symleiddio rhifau, ffigurau ac ystadegau. Caiff iaith y mae ei hangen i gyflwyno a mynegi barn ar brif nodweddion data gweledol ei chyflwyno.
SESIWN DEG: ARALLEIRIO
Caiff y sesiwn hon ei defnyddio i addysgu'r sgil bwysig o aralleirio. Mae aralleirio, neu ddefnyddio eich geiriau eich hun i esbonio syniadau rhywun arall, yn galluogi myfyrwyr i ddeall yn well yr hyn maent yn ei ddarllen ond hefyd mae'n eu helpu nhw i osgoi llên-ladrad.