Trosolwg | |
---|---|
![]() |
Lefel 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
2 awr yr wythnos am 4 wythnos |

Trwy gyfres o weithdai ymarferol, posau a thasgau dilyniant byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o ofynion yr arddull academaidd a meithrin sgiliau astudio ac ysgrifennu uwch.
Maes llafur
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau dwy awr canlynol:
SESIWN UN: Dadansoddi teitlau. Darllen yn dda, Y broses ysgrifennu.
Mae’r dosbarth hwn yn defnyddio tacsonomeg Blooms fel fframwaith i ddechrau dadansoddi teitlau traethodau a lefel wahanol y dadansoddi efallai bydd ei hangen ar y darlithydd.Ar ôl dadansoddi nifer o deitlau, rydym yn symud ymlaen i ystyried cynllunio, gyda’r pwyslais ar ysgrifennu cynllun cynnar iawn y gellir ei ddefnyddio er mwyn llywio’r ymchwil. Yn olaf, mae’r sesiwn yn symud ymlaen i ystyried technegau ar gyfer symleiddio ymchwil, trwy ddefnyddio teitl enghreifftiol ac ystod o ddeunyddiau ymchwil.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 1af Chwefror 2023, 13:00-15:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Iau 9fed Mawrth 2023, 10:00-12:00
SESIWN DAU: Cyflwyniadau, Strwythur a Dadl.
Mae’r sesiwn hon yn cyflwyno’r syniad bod traethawd academaidd yn seiliedig ar un datganiad neu ddadl mewn thesis.Cyflwynir prif elfennau cyflwyniad effeithiol, a chaiff myfyrwyr gyfle i ddadansoddi nifer o enghreifftiau cyn ymarfer eu cyflwyniad eu hun.Gan symud ymlaen, rydym yn ystyried sut gellir datblygu dadl drwy’r traethawd, gan gyflwyno’r syniad o frawddegau testun sy’n ‘arwyddion’ i dywys y darllenydd.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 8fed Chwefror 2023, 13:00-15:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Iau 16eg Mawrth 2023, 10:00-12:00
SESIWN TRI: Datblygu paragraffau: Dilyniant, Rhuglder a Beirniadaeth.
Mae’r sesiwn hon yn ychwanegu at sut y datblygir dadleuon mewn traethawd drwy ddangos elfennau hanfodol paragraff llwyddiannus.Yn ogystal â chynnwys sut i ysgrifennu cymorth a chrynodebau effeithiol ar gyfer pob paragraff, mae’r sesiwn yn addysgu dyfeisiau cydlynol er mwyn hyrwyddo’r llif.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 15fed Chwefror 2023, 13:00-15:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Iau 23ain Mawrth 2023, 10:00-12:00
SESIWN PEDWAR: Yr Arddull Academaidd, Golygu a phrawf ddarllen
Mae’r sesiwn hon yn ystyried sut i wneud ysgrifennu academaidd yn fwy darllenadwy drwy gyflwyno’r syniad o rythm, tôn a llais i fyfyrwyr.Yn ogystal â chynnwys y sylfeini o ran beth yw arddull academaidd, bydd yn ystyried sawl gwall cyffredin a sut i gael gwared â’r rhain wrth brawf-ddarllen yn effeithiol.
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher 22ain Chwefror 2023, 13:00-15:00
AR-LEIN DRWY ZOOM
Dydd Iau 30ain Mawrth 2023, 10:00-12:00