Mae'r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau canlynol:
SESIWN UN: Rhannau ymadrodd
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod y rhannau ymadrodd gofynnol er mwyn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o ramadeg.
SESIWN DAU: Cymalau
Yn y sesiwn hon, nodir y mathau gwahanol o gymalau drwy ddefnyddio 5 elfen cymalau sy’n ffurfio prif gymalau a’r is-gymalau.Trafodir cysyllteiriau cymal isradd a chydraddol yn eu tro.
SESIWN TRI: Mathau o frawddegau, Rhannau a Choll Geiriau
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod y pedwar prif fath o frawddeg a’r rheolau atalnodi sy’n eu rheoli.At hynny, bydd myfyrwyr yn gallu adnabod coll geiriau a materion eraill sy’n achosi’r frawddeg i rannu.
SESIWN PEDWAR: Comas, Comas, Comas
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod a defnyddio comas yn gywir wrth wahanu mathau o gymalau (diffiniol ac anniffiniol), rhestru ansoddeiriau, mewn perthynas ag ymadroddion safiad adferfol, ac mewn rhannau o frawddeg.
SESIWN PUMP: Hanner-Colon a Cholonau
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod a defnyddio hanner colonau a cholonau’n gywir ac yn effeithiol ar sail yr wybodaeth a gafwyd yn ystod yr wythnosau blaenorol.
SESIWN CHWECH: Creu Enw a Chollnodau
Yn y sesiwn hon, cyflwynir technegau o ran creu enw, a chaiff y rheolau sy’n llywio defnydd collnodau eu nodi a’u harchwilio.
SESIWN SAITH: Llyfnder wrth Ysgrifennu a Rhangymeriadau sy’n Hongian
Yn y dosbarth hwn, cyflwynir y problemau o ran rhangymeriadau sy’n hongian ac archwilir y ffordd orau i’w datrys.At hynny, cyflwynir technegau sy’n hyrwyddo llyfnder wrth ysgrifennu ynghyd â thasgau er mwyn i’r myfyrwyr ymarfer y rhain.
SESIWN WYTH: Dod â phopeth at ei gilydd
Yn y sesiwn derfynol hon, byddwn yn dod â phob techneg a gyflwynwyd hyd yn hyn at ei gilydd er mwyn dangos sut mae ysgrifennwr effeithiol yn gallu rheoli ei ddefnydd o ramadeg er mwyn mynegi’r ystyr yn eglur.