teipio ar gyfrifiadur

Mae mathemateg yn gweithredu fel rhan allweddol yn y byd o'n cwmpas, ac mae'n cael effaith ar fywyd bob dydd. Nid rhifau a chyfrifiadau yn unig yw mathemateg; mae deall geometreg ac algebra yn allweddol wrth ddylunio prosesau a datblygu technoleg. Mae maes ystadegau yn cyd-redeg â mathemateg, sy'n ymdrin â'r gwaith o gasglu, dadansoddi a dehongli data. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth feintiol ac ansoddol.

Nid sgìl bywyd yw rhifedd yn unig, ond mae deall mathemateg yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth feddwl yn feirniadol a datrys problemau – sgiliau y gellir eu defnyddio drwy gydol eich astudiaethau academaidd ac yn ystod eich gyrfa yn y dyfodol. 

Yn y brifysgol, mae mathemateg ac ystadegau yn elfen allweddol o bob pwnc STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), ac maent yn cael effaith ar sefyllfaoedd yn y byd go iawn, megis cyfrifo cyffuriau a chyllid. Mae cael dealltwriaeth o ystadegau yn allweddol er mwyn dadansoddi data – sy'n ofynnol ar gyfer llawer o brosiectau academaidd, traethodau estynedig a thraethodau ymchwil.

Yr hyn y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnig

P'un a oes angen i chi loywi eich sgiliau mathemateg neu adeiladu ar y wybodaeth sydd eisoes gennych a'i datblygu, gallwn eich helpu i gyflawni eich nod. Rydym yn cynnig gweithdai sy'n seiliedig ar bynciau, adnoddau ar-lein, cwisiau rhyngweithiol a sesiynau cymorth un-i-un gan ein cynghorwyr myfyrwyr – sy'n arbenigwyr hyfforddedig mewn mathemateg ac ystadegau. Rydym yn cynnig cymorth cyffredinol ym maes mathemateg ac ystadegau (gan gynnwys cymorth gyda meddalweddau perthnasol) i bob myfyriwr. Rydym hefyd yn cydweithio â'r adrannau Peirianneg, Rheolaeth, Ffiseg a Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe i gynnig sesiynau ac adnoddau wedi'u teilwra ar gyfer eu myfyrwyr

Cymerwch olwg ar ...

Adnoddau Ar-lein