Overview | |
---|---|
![]() |
Lefel 0, 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
Dau weithdy 2-awr |

GWEITHDY UN: Profi Rhagdybiaethau
Mae’r gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i ddadansoddi ystadegol data meintiol, cyflwyno dadansoddi data a phrofi damcaniaethau: Byddwn ni’n trafod cysyniad profi damcaniaethau a’r rheswm pam bod hwn yn adnodd hynod o hanfodol ar gyfer cynnal ein dadansoddiadau.
GWEITHDY DAU: Profi Rhagdybiaethau ar Waith
Mae'r ail weithdy'n dilyn y gweithdy profi damcaniaeth ac mae'n cynnwys gweithio drwy enghreifftiau. Ym mhob enghraifft, byddwch yn derbyn set ddata a bydd gofyn i chi fformiwleiddio damcaniaeth, dewis dull dadansoddi ystadegol priodol a dehongli'r canlyniadau mewn perthynas â'r ddamcaniaeth osod. Drwy gydol y sesiwn hon, byddwn ni'n gweithio yn y rhaglen R er mwyn cynnal dadansoddiad ystadegol. Anogir myfyrwyr i ddilyn y sesiwn ar eu dyfais eu hun. Bydd y dadansoddi ystadegol yn cynnwys rhai o'r dadansoddiadau cyffredin syml fel prawf-t, chi sgwâr a dadansoddi cydberthynas.