Overview | |
---|---|
![]() |
Lefel 0, 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
Dau gweithdau 2 awr |

Mae'r gweithdau rhain yn ymchwilio i gangen o fathemateg a elwir yn galcwlws sef, yn fwy penodol, integru sy’n broses i’r gwrthwyneb i ddifferiad. Yn y gweithdy cyntaf, byddwn yn ystyried technegau y gellir eu defnyddio gyda sawl problem, yn ogystal â dysgu integrynnau Safonol. Byddwn hefyd yn dysgu am Ddamcaniaeth Sylfaenol Calcwlws. Mae hyn yn dangos sut mae integrynnau a deilliadau’n gysylltiedig â’i gilydd. Yn y gweithdy ail, byddwn yn datblygu’r hyn a ystyriwyd yn y gweithdy cyntaf ac yn ystyried y dechneg a elwir yn integru fesul rhan. Defnyddir y dechneg hon i integru cynnych dwy ffwythiant; gellir hefyd ei defnyddio mwy nag unwaith i ymdrin â phroblemau fwy cymhleth.
Maes Llafur
Cynhelir y gweithdai ar-lein, ac wrth ichi gofrestru gallwch ddewis pa weithdai i fynd iddynt:
GWEITHDY UN: Integru Syml
Yn y gweithdy hwn byddwn yn adolygu ac yn ymarfer Integru Sylfaenol, Damcaniaeth Sylfaenol Calcwlws, Integrynnau Sylfaenol, ac Integru drwy Amnewid.
AR-LEIN TRWY ZOOM
Dydd Mawrth 7fed Chwefror 2023, 15:00-17:00
CAMPWS BAY
Dydd Iau 9fed Chwefror 2023, 14:00-16:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher, 8fed Mawrth, 2023, 11:00-13:00
GWEITHDY DAU: Integru fesul rhan
Yn y gweithdy hwn byddwn yn adolygu ac yn ymarfer Integru fesul rhan, Integru fesul rhan mwy nag unwaith, ac Integru ffwythiannau cymarebol.
AR-LEIN TRWY ZOOM
Dydd Mawrth 14eg Chwefror 2023, 15:00-17:00
CAMPWS BAY
Dydd Iau 16eg Chwefror 2023, 14:00-16:00
CAMPWS SINGLETON
Dydd Mercher, 15fed Mawrth, 2023, 11:00-13:00