Map Fy Nhaith Gyrfa
Gall cynllunio gyrfa fod yn her, felly rydym wedi rhannu'r broses yn gamau llai y mae'n hawdd eu rheoli. Mae digonedd o gyfleoedd yma yn Abertawe i chi wella eich sgiliau, cael profiad a meithrin eich hyder.
Gall ein map taith yrfa eich helpu i ddysgu amdanoch chi eich hun, datblygu eich cyflogadwyedd ochr yn ochr â'ch astudiaethau a deall y broses recriwtio.
Gall symud ymlaen ac yn ôl drwy'r camau fod yn rhan o ddarganfod yr yrfa iawn i chi. Mae'n iawn os ydych ymhell ar y blaen neu ddim ar y cam disgwyliedig yn eich taith. Mae eich dyfodol yn unigryw i chi a gallwch ei archwilio gam wrth gam.
Bwysicaf oll, peidiwch â rhoi'r ffidil yn y to yn hawdd!
Dyma rai adnoddau ynghylch meddylfryd a gwydnwch:Gwydnwch, Meddylfryd a Deallusrwydd emosiynol.