PERYGLON CYFFREDINOL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Mae Iechyd a Diogelwch wedi'i reoli drwy gyfuniad o ganllawiau canolog a lleol. Mae'r Tîm Iechyd a Diogelwch wedi pennu trefniadau cyffredinol at ddiben rheoli iechyd a diogelwch sy'n cael eu rhoi ar waith yn lleol gan bob Coleg Academaidd neu Uned Gwasanaethau Proffesiynol. Mae Colegau ac Unedau Gwasanaeth Proffesiynol yn ategu trefniadau cyffredinol drwy ychwanegu eu trefniadau penodol eu hunain i sicrhau y caiff risgiau eu rheoli'n llawn.

Mae'r dudalen hon yn rhoi dolenni i ganllawiau iechyd a diogelwch ar beryglon penodol. Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i gyfeiriad at berygl iechyd a diogelwch penodol, cysylltwch â'r Tîm Iechyd a Diogelwch a byddwn yn eich helpu gorau y gallwn ni.

Pan nad oes trefniadau polisi penodol yn bodoli i bwnc, mae’r Brifysgol yn disgwyl i bawb gydymffurfio â safonau cenedlaethol a rhyngwladol cydnabyddedig. Mae dogfennau iechyd a diogelwch y Brifysgol ar gael i'ch helpu i wneud hyn. Fodd bynnag, os bydd angen rhagor o gyngor arnoch, cysylltwch â'r tîm

Cliciwch ar y teitlau isod i ehangu'r wybodaeth:

Cysylltu ag Iechyd a Diogelwch

A male and female student sitting at desk with notes and laptop