Darpariaethau Addasiadau Cynhwysol ar gyfer arholiadau ar y safle, wyneb yn wyneb:
Ar gyfer unrhyw arholiadau ar y safle, mae ein swyddfa arholiadau yn treialu system optio allan ar gyfer gweithredu darpariaethau, lle mae eich darpariaethau'n cael eu rhoi ar waith yn awtomatig i unrhyw arholiadau wyneb yn wyneb rydych chi'n eu sefyll yn ystod eich amser yn Abertawe, oni bai eich bod yn cael gwybod fel arall.
Pan gaiff amserlen yr arholiadau ei chyhoeddi ar eich cyfrif mewnrwyd, bydd yn dangos lleoliadau eich arholiadau â darpariaethau priodol, ynghyd â manylion cryno am drefniadau eich darpariaeth.
Os oes unrhyw ddarpariaethau nad ydych am iddynt fod ar waith ar gyfer eich arholiadau ar y safle, neu os ydych am wrthod eich darpariaethau yn gyfan gwbl a sefyll eich arholiadau yn y prif leoliadau, anfonwch e-bost at dîm y Swyddfa Arholiadau yn examsoffice@abertawe.ac.uk.
Darpariaethau Addasiadau Cynhwysol ar gyfer arholiadau ar-lein:
Os oes gennych ffurflen Addasiadau Cynhwysol gyda darpariaethau wedi'u cytuno ar gyfer arholiadau, ar gyfer unrhyw arholiad a fydd ar-lein ac yn para am 24 awr neu lai, caiff eich darpariaethau amser ychwanegol a/neu seibiannau eu rhoi ar waith yn awtomatig.
Os ydych chi'n dechrau asesiad ar-lein ac yn sylweddoli nad ydych chi wedi derbyn yr amser ychwanegol y mae gennych hawl iddo, cysylltwch â'r tîm yn StudentSupport-ScienceEngineering@abertawe.ac.uk ar unwaith (yn ddelfrydol, pan fydd yr asesiad yn dal i fod ar agor) er mwyn inni allu archwilio a chywiro hyn os bydd angen.
Darparu Darllenwyr: Ar gyfer myfyrwyr a fydd fel arfer yn cael mynediad at ddarllenydd ar gyfer arholiadau wyneb yn wyneb, nid yw hon yn ddarpariaeth sy'n berthnasol i asesiadau ar-lein. Fodd bynnag, rydym ni'n awgrymu bod myfyrwyr yn adolygu'r dechnoleg gynorthwyol sydd ar gael iddynt: https://www.swansea.ac.uk/cy/technoleg-gynorthwyol/
Hefyd, gweler nodwedd newydd sydd bellach ar gael yn Canvas o'r enw'r 'Immersive Reader'. Dyma offer Microsoft sy'n plygio i mewn i Canvas ac yn helpu wrth ddarllen cynnwys mewn tudalennau Canvas mewn ffyrdd hygyrch, gan gynnwys:
- adrodd ar ffurf sain
- cyfieithu
- neilltuo cynlluniau lliw
- neilltuo ffontiau
- a mwy.
Gweler canllaw yn y cwrs Pasbort i Canvas o dan Immersive Reader in Canvas Pages am ragor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r teclyn hwn.