Os ydych chi'n cael trafferth ac mae gennych amgylchiadau sy'n effeithio ar eich gallu i gwblhau neu gyflwyno asesiadau terfynol yn ystod Cyfnod Arholiadau Mai-Mehefin 2024, mae dau opsiwn i'w hystyried. Bydd yr opsiynau hyn yn berthnasol i asesiadau a gynhelir ar gyfer modiwlau Semester 2 yn ystod y cyfnod asesu rhwng 15 Mai tan 7 Mehefin 2024.

Ar gyfer asesiadau gwaith cwrs eraill, dilynwch arweiniad Amgylchiadau Esgusodol ar gyfer Gwaith Cwrs Parhaus.

Gweler crynodeb o'r opsiynau isod a darllen ymhellach i weld manylion o ba amgylchiadau sy'n gymwys a sut i gyflwyno cais am bob opsiwn. Am ragor o fanylion, gweler hefyd arweiniad Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol a hefyd yr arweiniad ynghylch Amgylchiadau Esgusodol a Goblygiadau Ariannol sydd ar gael gan Arian@BywydCampws.

Opsiynau Amgylchiadau Esgusodol yn ystod Cyfnod Arholiadau Mai-Mehefin 2024

Opsiwn 1: Gohirio Asesiad

  • Gall myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol gyflwyno cais i ohirio unrhyw un o Arholiadau Semester 2 Mis Mai-Mehefin 2024. Os caiff hwn ei gymeradwyo, mae'n rhoi opsiwn i fyfyrwyr i ohirio un neu fwy o'u harholiadau terfynol a sefyll yr asesiad sydd wedi'i ohirio yn ystod cyfnod asesu yn y dyfodol.
  • Bydd myfyrwyr sydd wedi cael caniatâd i ohirio arholiadau yn sefyll yr arholiad(au) a ohiriwyd yng nghyfnod arholiadau atodol mis Awst 2024.  

Opsiwn 2: Darpariaethau Dros Dro

  • Mae darpariaethau dros dro yn berthnasol i fyfyrwyr y mae ganddynt amgylchiadau sydyn, byr dymor sy'n effeithio arnynt yn ystod y cyfnod asesu.
  • Os cymeradwyir arholiadau ar-lein, mae'r opsiwn hwn yn rhoi naill ai 25% o amser ychwanegol a/neu gymorth wrth drefnu mannau ychwanegol yn y Llyfrgell i'w defnyddio ar gyfer astudio ac asesu ar gyfer asesiadau cymwys (os ydynt ar gael).
  • Sylwer, os cytunwyd ar ddarpariaethau dros dro ar gyfer naill ai arholiadau ar-lein neu ar y campws, byddant yn berthnasol ar gyfer y cyfnod arholiadau dan sylw YN UNIG.   
  • Sylwer y bydd darpariaethau dros dro sydd wedi'u cytuno ar gyfer arholiadau ar-lein yn berthnasol i asesiadau sy'n para am lai na 24 awr YN UNIG.

SUT I GYFLWYNO CAIS AM OHIRIADAU A DARPARIAETHAU DROS DRO

Os ydych yn profi amgylchiadau esgusodol argymhellwn eich bod yn gwylio'r fideo hwn. Os oes gennych gwestiynau am dystiolaeth ategol briodol, cysylltwch â'r tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr am arweiniad.