Mae astudio ar lefel ôl-raddedig yn gyfle i ehangu ar yr hyn rydych eisoes wedi'i ddysgu yn rhan o'ch gradd israddedig – i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r pwnc i'r lefel nesaf, ac arbenigo mewn maes penodol sydd o ddiddordeb i chi.
Er mwyn ennill y safonau sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel ôl-raddedig, mae bron yn sicr y bydd angen i chi wella eich sgiliau astudio ymhellach. Disgwylir y bydd eich gwaith ymchwil a'ch lefelau dadansoddi yn fwy manwl a gwreiddiol. Bydd angen i'ch sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, fod yn uwch.