EIN DISGWYLIADAU OHONOCH CHI

Mae'r disgwyliadau hyn yn estyniad o'r "https://myuni.swansea.ac.uk/student-voice/student-charter/" Siarter Myfyrwyr a'r holl bolisïau sy'n ymwneud ag ymddygiad myfyrwyr a luniwyd gan y Brifysgol. Argymhellir eich bod yn parhau i fod yn gyfarwydd â'r polisïau hyn gan eu bod yno i gefnogi eich profiad addysgol ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae llawer o gymorth ar gael i chi yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Abertawe, ond gall fod yn her gwybod ble i ddechrau. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â Tîm Gwybodaeth a Phrofiad Myfyrwyr, a fydd yn cynnig arweiniad neu'n eich rhoi ar y trywydd iawn.

Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg - Disgwyliadau o Fyfyrwyr a Staff

Disgwyliadau Cyffredinol

Dylech chi...

Byddwn ni'n…

Ddangos parch.

  • Gofynnwn i chi fod yn gwrtais tuag at bobl eraill, a thrin pob aelod o'r Brifysgol a'r gymuned leol â pharch.

Aros yn broffesiynol...

  • Mae'r Brifysgol yn amgylchedd ffurfiol a dylech fod yn broffesiynol ac yn gwrtais bob amser wrth gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch sy'n gysylltiedig â'ch rhaglen.

    Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch wyneb yn wyneb, pob math o waith asesu (gan gynnwys gwaith grŵp), ac wrth gyfathrebu drwy blatfformau ar-lein fel y cyfryngau cymdeithasol, Unitu neu e-bost.
  • Wrth gysylltu â staff drwy e-bost, dylech bob amser ddefnyddio eich cyfrif e-bost yn y Brifysgol – gwiriwch hyn yn rheolaidd, gan mai dyma brif ddull cyfathrebu'r Brifysgol.

Gofalu am eich gofod…

  • Nod y Gyfadran yw darparu amgylchedd diogel i bob myfyriwr weithio ac astudio.
  • Ym mhob man, dylid dilyn rheoliadau Iechyd a Diogelwch priodol, a dylech adael lleoedd fel y dewch o hyd iddynt. Sicrhewch fod yr holl eitemau personol a sbwriel yn cael eu gwaredu yn y biniau sydd ar gael.

Dangos parch…

  • Bydd yr holl staff yn trin aelodau'r Brifysgol a'r gymuned leol â pharch a chwrteisi.
  • Gall staff roi atebion i chi ynghylch cynnwys modiwlau, ond ar gyfer modiwlau mawr gall staff ddefnyddio dulliau cyfathrebu eraill (h.y. byrddau trafod Canvas).
  • Weithiau, gall staff ymateb i chi gyda'r hwyr a thros y penwythnos - ond ni ddylech ddisgwyl hyn gan y dylid parchu oriau gwaith arferol.
  • Bydd Tiwtoriaid Personol, Cydlynwyr Modiwlau, Cydlynwyr Blwyddyn a hyfforddwyr yn ceisio ymateb i e-byst o fewn 3 diwrnod gwaith, yn ddelfrydol yn gynt.
  • Os caiff pryder ei godi ynghylch ymddygiad unigolyn (staff neu fyfyriwr), bydd staff yn gweithredu ar hyn mewn modd priodol ac amserol. Gall hyn olygu eich cyfeirio at dimau neu weithdrefnau cymorth ychwanegol.

 


Rhagor o Gymorth a Gwybodaeth:

Ymgysylltu: Darlithoedd a dosbarthiadau gweithredol ac ymarferol Asesiadau Arholiadau