Mae'n rhaid darparu tystiolaeth ategol ar gyfer pob cais am amgylchiadau esgusodol, rhaid ei bod wedi'i dyddio o fewn mis i'r asesiad dan sylw neu'r dyddiad cau perthnasol, a rhaid iddi nodi sut mae'r amgylchiadau wedi effeithio ar berfformiad myfyriwr a/neu sut gallent fod wedi effeithio ar allu'r myfyriwr i ymgymryd ag asesiad, ei gwblhau neu ei gyflwyno'n brydlon.
Mewn achosion lle nad yw'n bosibl/briodol darparu tystiolaeth annibynnol o'ch amgylchiadau, gallwch gyflwyno datganiad yn lle; fodd bynnag, bydd yn rhaid esbonio pam nad oes modd darparu tystiolaeth annibynnol. Bydd absenoldeb dogfennau fel hynny yn arwain at wrthod y cais oni bai y gallwch roi esboniad digonol yn eich cais am eich rheswm dros fethu darparu tystiolaeth fel hynny.
Mae'r Brifysgol yn cydnabod y bydd hi'n anodd i rai myfyrwyr gasglu tystiolaeth mewn rhai amgylchiadau, a bydd yn ystyried ceisiadau â chydymdeimlad os darperir esboniad priodol.
Rhaid cyflwyno'r holl dystiolaeth ategol fel dogfen Word, JPEG neu PDF.Nid yw systemau'r gyfadran yn gallu darllen dogfennau ategol yn fformat HEIC.
Mae enghreifftiau o dystiolaeth briodol yn cynnwys y canlynol:
- Llythyr neu dystysgrif gan feddyg.
- Llythyr yn cadarnhau cyfnod yn yr ysbyty a dyddiad rhyddhau o'r ysbyty.
- Tystysgrif marwolaeth/trefn gwasanaeth angladd/llythyr gan drefnwr angladdau.
- Adroddiad gan yr heddlu – ni fydd rhif cyfeirnod y drosedd ar ei ben ei hun yn ddigonol.
Rhaid i dystiolaeth ategol:
- Gael ei darparu gan drydydd parti a'i chyflwyno gan y myfyriwr i chi.
- Esbonio'r amgylchiadau'n glir.
- Cadarnhau'r cyfnod amser yr oedd yr amgylchiadau'n effeithio arno.
- Cael ei dyddio o fewn mis i ddyddiad yr asesiad dan sylw.
- Rhaid darparu tystiolaeth ategol o fewn 10 niwrnod gwaith i ddyddiad cyflwyno'r cais am amgylchiadau esgusodol.
- Yn achos dogfennaeth a ysgrifennwyd mewn iaith arall, rhaid darparu cyfieithiad swyddogol.
Mae'r math o dystiolaeth fyddai’n cael ei derbyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Dyma rai enghreifftiau isod o dystiolaeth ategol annibynnol y bydd modd ei hystyried:
Yn achos problemau technegol (h.y. amhariad ar y wifi/cysylltiad, problemau mynediad at Canvas etc), bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ategu eich cais. Gall y dystiolaeth gynnwys:
- sgrinluniau o negeseuon gwall sy'n nodi dyddiad/amser.
- hysbysiad o amhariad ar y gwasanaeth â dyddiad, gan ddarparwr eich gwasanaeth.
- diweddariad o dudalen darparwr y rhwydwaith.
- cyfathrebiadau ynghylch yr amhariad, gan gynnwys e-byst neu bostiadau yn y cyfryngau cymdeithasol
- gohebiaeth â darparwr gwasanaeth neu dîm technegol sy'n manylu ar y broblem, y dyddiad/amser a'r ymgais i ddatrys y broblem.
Tystiolaeth ar gyfer materion technegol NA dderbynnir: NID YSTYRIR bod cyfarpar sydd wedi torri a cholli ffeiliau/gwaith/nodiadau fel arfer yn rhesymau dilys ar gyfer amgylchiadau esgusodol, ac ni dderbynnir lluniau o liniadur/offer wedi torri fel tystiolaeth. Gweler yr wybodaeth isod ynghylch benthyca gliniaduron ac argaeledd cyfrifiaduron y Llyfrgell am gymorth gyda'r materion hyn.
Yn achos amgylchiadau sy'n ymwneud ag iechyd neu les/iechyd meddwl, gall y dystiolaeth gynnwys:
- Nodyn gan eich meddyg, meddyg teulu neu ganolfan iechyd yn manylu ar yr amgylchiadau a'r dyddiadau pan oeddent yn effeithio arnoch chi.
- Ffurflen wedi’i chwblhau gan dîm Lles neu Anableddau'r Brifysgol yn cadarnhau'r cyflwr neu'r amgylchiadau. Dylech ddarparu copi o'ch ffurflen fel rhan o'ch cais, fel y bydd y cais a'r ddogfennaeth ategol gennym gyda'i gilydd wrth i ni adolygu'r cais.
Osydych yn cael prawf positif o Covid, bydd aangen i'r dystiolaeth gynnwys:
- Llun o'ch prawf positif gyda rhif cyfresol eich prawf i'w weld yn glir
- Dylai eich prawf positif gael ei osod drws nesaf i nodyn sy'n cynnwys eich rhif myfyriwr, enw llawn, dyddiad a llofnod sy'n nodi mai eich prawf chi ydyw.
Yn achos profedigaeth, sylweddolwn fod hwn yn gyfnod gofidus i bawb ac y gall fod yn anodd casglu tystiolaeth. Mae'r mathau o dystiolaeth y gallwn eu hystyried yn cynnwys, ymysg eraill:
- Copi o dystysgrif marwolaeth (os oes un ar gael),
- Copi o drefn gwasanaeth angladd neu hysbysiad o angladd.
- Tystiolaeth o salwch difrifol/marwolaeth perthynas agos/aelod o'r teulu (a ddiffinnir fel rhiant/prif ofalwr yr ymgeisydd, brawd neu chwaer, partner/priod, plentyn/dibynnydd).
- Os oes gennych broblemau lles neu iechyd meddwl o ganlyniad i brofedigaeth, gallwch ddarparu tystiolaeth ynghylch y problemau lles/iechyd meddwl yn hytrach na'r brofedigaeth ei hun (gweler y nodiadau uchod ynghylch dogfennau ategol ar gyfer amgylchiadau iechyd, lles/iechyd meddwl).
- Enghreifftiau yn unig yw'r manylion uchod ac os yw'n anodd i chi gasglu tystiolaeth, siaradwch ag aelod o'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr.
O ran amgylchiadau cymwys eraill, megis trefniadau cartref neu gyfrifoldebau gofalu:
- Ceisiwch ddisgrifio'r amgylchiadau mewn cymaint o fanylder â phosibl a darparwch gymaint o dystiolaeth ag y gallwch, a bydd y Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr yn cysylltu â chi os oes angen tystiolaeth bellach.
- Yn achos cyfrifoldebau gofalu tymor byr ac anawsterau domestig, ystyrir datganiad gan aelod o'r teulu/ffrind yn dderbyniol efallai os nad oes tystiolaeth ategol arall ar gael.
- Dyma rai enghreifftiau, ond am restr lawn o amgylchiadau esgusodol cymwys a thystiolaeth dderbyniol, darllenwch brif Bolisi Amgylchiadau Esgusodol y brifysgol.