Mae gofalu am eich iechyd ar ôl i chi adael gartref a dechrau byw yn annibynnol fel myfyriwr yn bwysig. Mae gwneud hyn nid yn unig o fudd i'ch hun ond gall hefyd gael effaith ar eich cyd-fyfyrwyr yng nghymuned y Brifysgol.
Iechyd Myfyrwyr

Pam cofrestru gyda Meddyg Teulu yn y Brifysgol?
Trwy gofrestru gyda phractis Meddyg Teulu bydd modd i chi gael mynediad at gymorth i'ch helpu i wella os ydych chi'n teimlo'n sâl neu'n profi unrhyw faterion iechyd meddwl, iechyd corfforol neu iechyd rhywiol yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr. Gall Meddyg Teulu hefyd roi dogfennau meddygol i chi sy'n esbonio eich salwch neu'ch cyflwr pe bai angen tystiolaeth ategol arnoch ar gyfer amgylchiadau esgusodol, gohirio arholiadau neu absenoldeb yn ystod eich astudiaethau.
Cofrestru gyda Meddyg Teulu
Gwybodaeth am Gofrestru gyda Meddyg Teulu
Os hoffech chi gofrestru ar gyfer gwasanaethau Meddyg Teulu wrth astudio ym Mhrifysgol Abertawe, mae meddygfeydd bellach yn defnyddio cyfleuster ar-lein, ‘Ask My GP’. Gallwch chi gyrchu ffurflenni cofrestru ar-lein a gallwch chi eu llenwi cyn i chi ddod i Abertawe.
Mae llu o opsiynau meddygfa Meddyg Teulu ar gael i fyfyrwyr yn Abertawe ond rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r rhai canlynol am eu bod yn agos at ein campysau.
Campws Parc Singleton – http://www.universityhealthcentre.co.uk/
Campws y Bae - http://www.harbourside.wales.nhs.uk/home
Brechiadau Ffliw
Gofynnwn i'r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda Chanolfan Iechyd y Brifysgol ac sydd ag unrhyw rai o'r cyflyrau canlynol ffonio'r feddygfa ar 01792 295321 i drefnu apwyntiad i gael eich brechiad ffliw blynyddol am ddim:
- Asthma
- Diabetes
- Canser
- Beichiog
- Myfyrwyr sy'n derbyn lwfans gofalwyr, neu sy'n brif ofalwyr unigolyn hŷn neu anabl a allai fod 'mewn perygl' os byddwch chi'n sâl
- Cyflyrau'r galon
- Afiechyd Cronig yr Arenna
- Gwrthimiwnedd
Os NAD oes un o'r cyflyrau uchod gennych, ni fydd gennych hawl i frechiad ffliw AM DDIM yn y feddygfa. Fodd bynnag, gallwch gael brechiad ffliw yn un o'r fferyllfeydd lleol neu yn archfarchnadoedd Tesco ac Asda, ond codir tâl bach am hyn.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda'r feddygfa eto a hoffech wneud hynny, gallwch fewngofnodi i wefan y feddygfa:
- Sgroliwch i lawr i 'Sut i gofrestru gyda'r feddygfa'
- Cliciwch ar y dolenni am y ffurflen cofrestru cleifion newydd a'r holiadur cleifion
- Llenwch y ffurflenni hyn gan sicrhau eich bod yn llofnodi'r ffurflen gofrestru
- Cadwch y ffurflenni wedi'u cwblhau neu tynnwch lun ohonynt
- Ewch i Ask My GP ac atodi/lanlwytho'r ffurflenni wedi'u cwblhau
- Anfonwch nhw i’r feddygfa
http://www.universityhealthcentre.co.uk/
Byddwch yn derbyn cadarnhad gan y feddygfa pan fydd eich cofrestriad wedi'i brosesu.
Llid yr Ymennydd a Thwbercwlosis
O ganlyniad i nifer uchel o fyfyrwyr newydd yn byw'n agos at ei gilydd yn ystod Wythnos y Glas ac ar ôl hynny gall fod cynnydd yn y risg y bydd myfyrwyr yn dal ac yn lledaenu Llid yr Ymennydd a Thwbercwlosis. Dyma pam ei bod yn hanfodol bod pob myfyriwr yn cofrestru gyda Meddyg Teulu, i sicrhau eu bod wedi'u brechu yn erbyn Llid yr Ymennydd ac wedi'u sgrinio ar gyfer Twbercwlosis.
Iechyd Rhywiol
Mae gofalu am eich iechyd rhywiol fel myfyriwr yn golygu meddwl am atal atgenhedlu, mynychu apwyntiadau gwirio yn rheolaidd sy'n cynnwys profion ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) a dysgu sut i fod yn bartner rhywiol ystyriol a chyfrifol.
Ddim yn teimlo'n dda?
Os bydd eich salwch yn effeithio ar eich presenoldeb, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i'ch coleg fel y gallant gofnodi'ch absenoldeb. Dylech chi hefyd gysylltu â'ch tiwtor personol i roi gwybod iddo. Mae'n bosib y gall roi gwybod i swyddogion gweinyddol y coleg ar eich rhan. Sylwer, mae'n bosib y bydd angen i chi ddarparu dogfennau meddygol ar gyfer eich salwch. Fel arfer bydd modd derbyn y rhain gan eich Meddyg Teulu yn Abertawe.