8.1
Cydran addysgol unigol o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd pob rhaglen yn cynnwys modiwlau a addysgir - a all fod yn fodiwlau sengl sy’n werth o leiaf 5 credyd Prifysgol Abertawe ond na fyddant fel arfer yn werth mwy na 30 o gredydau. Yn achos Rhaglenni Meistr, bydd 60 o gredydau ychwanegol o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu drefniant amgen a gymeradwywyd.
8.2
Ar gyfer pob modiwl:
- Dynodir côd cyfeirio unigryw.
- Dynodir lefel astudio sy’n adlewyrchu safon academaidd y modiwl a’i ddeilliannau dysgu.
- Caiff credydau’r System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) eu pennu iddo (yn fras, mae 5 credyd y system honno’n gyfwerth â 10 credyd Prifysgol Abertawe).
- Gall modiwl fod â rhagofynion a/neu gyd-ofynion.
8.3
Gellir grwpio modiwlau i’r categorïau canlynol: modiwlau sydd wedi’u seilio ar ddarlithoedd; modiwlau sydd wedi’u seilio ar waith ymarferol; ymarfer allanol; dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd; traethawd estynedig; gwaith cyfrifiadurol; gwaith maes; lleoliad gwaith neu ddysgu yn y gweithle, neu gyfuniad priodol o’r categorïau hyn (modiwl cyfansawdd).
8.4
Bydd pob modiwl ar gyfer cymhwyster a gynigir dan y rheoliadau hyn yn cyfateb i Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
8.5
Mae'r gwahanol fathau o fodiwl yn cynnwys:
Modiwlau Gorfodol
Bydd modiwlau gorfodol, a fydd yn cael eu pennu gan y Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) dan sylw, yn perthyn i’r rhan fwyaf o raglenni gradd. Dylai pob Cyfadran/Ysgol nodi’r cyfryw fodiwlau a'u rhestru yn llawlyfrau'r Gyfadran/Ysgol.
Modiwlau Dewisol
Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol, efallai y bydd disgwyl i ymgeiswyr astudio modiwlau dewisol o restr o ddewisiadau a bennir yn y maes (neu’r meysydd) pwnc arbenigol. Dylai ymgeiswyr ofyn am arweiniad eu Gyfadran/Ysgol ‘cartref’ wrth ddewis y modiwlau dewisol.
Modiwlau Craidd
Gall Cyfadrannau/Ysgolion nodi modiwlau sy’n hanfodol ar gyfer rhaglen. Gall Cyfadrannau/Ysgolion fynnu bod rhaid i ymgeisydd astudio'r modiwlau ‘craidd’ hynny a llwyddo ynddynt cyn y caiff symud ymlaen i ran nesaf yr astudio neu fod yn gymwys i ennill y dyfarniad. Mae’n rhaid gwneud yn iawn am fodiwlau craidd sy’n cael eu methu.
Modiwlau Amgen
Fel rheol, caiff y modiwlau hyn eu hastudio yn lle modiwlau a fethwyd yn flaenorol (ar ymgais gyntaf yn unig). Caiff ymgeiswyr wneud cais i'w Cyfadran/Ysgol gartref am ganiatâd i ddilyn modiwl(au) amgen. Bydd y marc ar gyfer modiwl amgen yn cael ei gapio, waeth beth yw'r marc mewn gwirionedd.
8.6
Trosglwyddo Rhwng Modiwlau
Caiff ymgeiswyr drosglwyddo o un modiwl i fodiwl arall ar yr amod bod y cais i drosglwyddo’n cael ei gymeradwyo gan y Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) perthnasol o fewn y raddfa amser ganlynol:
- Modiwlau dwys byr (2 wythnos) cyn diwedd yr ail ddiwrnod o addysgu ar y modiwl dan sylw.
- Modiwlau byr (11 wythnos): cyn diwedd ail wythnos yr addysgu ar y modiwl dan sylw.
- Modiwlau hir (22 wythnos) cyn diwedd y bedwaredd wythnos o addysgu ar y modiwl dan sylw.
Mewn achosion eithriadol yn unig, a chyda chymeradwyaeth Cadeirydd Pwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Gyfadran/Ysgol, y cymeradwyir cais i drosglwyddo y tu allan i’r terfynau amser hyn.
Disgwylir i fyfyrwyr gydymffurfio â'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan Senedd y Brifysgol, ac sydd mewn grym ar y pryd.