Mae’r rheoliadau hyn yn ddilys ar gyfer ymgeiswyr sy’n dilyn rhaglenni astudio israddedig, ôl-raddedig a addysgir, ac ymchwil. 

1.    Diffiniad

Mae dyfarniad Aegrotat yn ddyfarniad heb ddosbarth y gellid ei roi i ymgeiswyr ar y dybiaeth y byddai ymgeisydd nad yw'n gallu parhau i astudio wedi bodloni'r safon angenrheidiol ar gyfer y dyfarniad, pe gallasai wedi parhau i astudio.

2.    Cyflwyniad

2.1

Bydd is-bwyllgor o Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol a alwyd ynghyd yn arbennig yn ystyried ceisiadau gan Gyfadrannau/Ysgolion am ddyfarnu gradd, diploma neu dystysgrif Aegrotat. Cyfeirir at yr is-bwyllgor fel Bwrdd Aegrotat/ar ôl Marwolaeth.

2.2

Gellir gwneud dyfarniadau Aegrotat yn unol â Rheoliadau’r Dyfarniad a restrir isod.

2.3

Yn achos myfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir, bydd y dyfarniad Aegrotat fel arfer yn cyfateb i'r lefel astudio yr amharwyd arni. Mae'r fath ddyfarniad yn amodol ar fodolaeth digonedd o dystiolaeth y byddai'r myfyriwr wedi cwblhau'r lefel dan sylw os na amharwyd ar ei astudiaethau. Yn absenoldeb y fath dystiolaeth, y dyfarniad Aegrotat fydd y dyfarniad ymadael perthnasol am yr astudio a gwblhawyd.

2.4

Ni fydd gradd ymchwil Aegrotat yn cael ei dyfarnu fel rheol oni bai fod ymgeisydd wedi cyflwyno thesis ac wedi'i asesu drwy gyfrwng arholiad llafar (viva). Caiff pob achos ei ystyried yn ôl ei haeddiant ei hun.

2.5

Bydd gradd, diploma neu dystysgrif Aegrotat yn radd heb ddosbarth ac, ym mhob cyfrif arall, yn anraddedig. Nid yw dyfarniad Aegrotat o reidrwydd yn caniatáu i’r deiliad gofrestru â chorff proffesiynol, nac yn ei eithrio rhag gofynion unrhyw gymhwyster proffesiynol a fyddai fel arall yn gysylltiedig â’r rhaglen astudio dan sylw.

Ni fydd ymgeiswyr sy'n dilyn rhaglenni proffesiynol mewn gofal iechyd ac sy'n derbyn gradd, diploma neu dystysgrif Aegrotat yn gymwys i gofrestru â chyrff gofal iechyd proffesiynol.

2.6

Bydd gradd Aegrotat fel arfer yn ddyfarniad sy'n enwi'r pwnc, heblaw yn yr achosion hynny lle y mae gofynion cyrff proffesiynol yn pennu nad yw dyfarniad sy'n enwi'r pwnc yn briodol. Caiff teitl llawn gradd Aegrotat ei ystyried fel rhan o'r gweithdrefnau ar gyfer ystyried y dyfarniad a bydd yn hysbys i'r ymgeisydd cyn iddo dderbyn y dyfarniad.

3.     Rheoliadau’r Dyfarniad 

3.1     

Caiff ymgeisydd wneud cais am ddyfarniad Aegrotat, neu, mewn achos lle na all yr ymgeisydd baratoi neu gyflwyno'r fath gais, caiff y Gyfadran/Ysgol gyflwyno cais. Cyflwynir bob cais i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd.

3.2

Bydd raid i’r ymgeisydd ddynodi ei fod yn fodlon derbyn dyfarniad Aegrotat. Lle bo ymgeisydd yn anfodlon derbyn dyfarniad Aegrotat, caniateir iddo gwblhau’r arholiad neu’r asesiad dan sylw erbyn y dyddiad dilynol a gymeradwyir.

3.3      

Bydd y Gyfadran/Ysgol yn ystyried tystiolaeth berthnasol a fydd yn cynnwys tystysgrif feddygol foddhaol yn achos salwch neu ddogfennaeth addas mewn achosion eraill, ac yn sefydlu ffeithiau achos yr ymgeisydd.

3.4

Rhaid i'r Gyfadran/Ysgol fodloni ei hun:

  • nad yw'n debyg y bydd y myfyriwr yn gallu dychwelyd at astudio yn y dyfodol, a
  • bod perfformiad blaenorol yr ymgeisydd yn dangos y byddai wedi pasio oni bai am y salwch neu'r digwyddiad perthnasol.

4.    Rheoliadau a Chanllawiau ar gyfer gwneud y Dyfarniad

4.1

Caiff pob achos ei ystyried, yn y man cyntaf, gan Gyfadran/Ysgol. Bydd y Gyfadran/Ysgol yn gyfrifol am gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl ar yr achosion a wnaeth atal yr ymgeisydd rhag ymgeisio’r asesiad(au) cyfan neu ran ohono/ohonynt, ynghyd â thystiolaeth o ragolygon yr ymgeisydd o ran gorffen yr asesiad(au) mewn blwyddyn ddilynol o fewn y terfyn amser a benodir gan reoliadau.

4.2

Pan fo tystiolaeth ategol wedi'i derbyn gan ymarferydd meddygol y tu allan i'r Brifysgol, mae'n ddymunol gofyn bod yr Adran Iechyd Galwedigaethol a/neu ymarferydd arall â chymhwyster priodol yn ymgymryd ag ymgynghoriad llawn â'r ymarferydd dan sylw cyn y gwneir unrhyw argymhelliad ar ran ymgeisydd.

4.3

Bydd y Gyfadran/Ysgol yn gwneud argymhelliad i’r Bwrdd Aegrotat perthnasol ar bob achos. Bydd yr argymhelliad yn cynnwys:

  • manylion ynglŷn â statws academaidd yr ymgeisydd;
  • manylion ynglŷn â’r achosion a ataliodd yr ymgeisydd rhag ymgeisio’r asesiad(au) cyfan neu ran ohono/ohonynt;
  • manylion y dystiolaeth feddygol neu ddogfennaeth briodol arall;
  • argymhelliad gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol a/neu ymarferydd cymwys addas arall, fel y nodir gan y Brifysgol (os yw’n berthnasol);
  • tystiolaeth ar ragolygon yr ymgeisydd o ran cwblhau’r asesiad(au) mewn blwyddyn ddilynol o fewn y terfyn amser;
  • argymhelliad ar deitl y Dyfarniad Aegrotat os na ystyrir ei fod yn briodol enwi'r dyfarniad;
  • datganiad wedi’i arwyddo gan yr ymgeisydd yn dynodi ei fod yn fodlon derbyn gradd Aegrotat.

4.4

Bydd tri aelod i'r Bwrdd Aegrotat, fel arfer Cadeirydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol (neu ei enwebai) a dau aelod arall o'r Bwrdd hwnnw. Bydd rhaid i gynrychiolydd o'r Adran Iechyd Galwedigaethol a/neu ymarferydd cymwys addas arall, fel y nodir gan y Brifysgol, fynychu cyfarfod y Bwrdd Aegrotat.

4.5

Bydd y Bwrdd Aegrotat yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael iddo ac yn gwneud argymhelliad i Fwrdd Dilynant a Dyfarnu'r Brifysgol.

4.6

Bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn gwneud penderfyniad ynghylch cymeradwyo’r dyfarniad neu beidio. Hysbysir y penderfyniad i’r ymgeisydd ac fe’i hadroddir i’r Gyfadran/Ysgol perthnasol.

5.     Adrodd, Monitro, Gwerthuso ac Adolygu

5.1

Bydd y Bwrdd Aegrotat yn cyflwyno adroddiad i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ar yr holl Ddyfarniadau Aegrotat.

5.2

Cyfrifoldeb y Bwrdd Rheolau ac Achosion Academaidd, yw adolygu’r Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau Aegrotat a’u heffeithiolrwydd a gwneud awgrymiadau am newidiadau, lle bo hynny’n berthnasol, i’w hystyried gan y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd.